Fe fydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar ddiwrnod cyntaf llwyddiannus yn erbyn Swydd Northampton yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw, wrth iddyn nhw ail-ddechrau eu batiad cyntaf ar 21 heb golli wiced, wrth ymateb i gyfanswm batiad cynta’r ymwelwyr o 281.

Batwyr Swydd Northampton gafodd y gorau o hanner cynta’r diwrnod cyntaf, wrth i’r capten Alex Wakely daro 82 a Richard Levi 75. Cyfrannodd Ricardo Vasconcelos 56 at y cyfanswm hefyd.

Ond tarodd y Cymry’n ôl gan gipio pum wiced ola’r Saeson am chwe rhediad oddi ar 17 o belenni.

Cipiodd y bowliwr cyflym Timm van der Gugten bum wiced am 45.

Manylion

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, cafodd yr ymwelwyr y dechrau gwaethaf posib, wrth i Ben Duckett gael ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio’r capten Michael Hogan am chwech ar ôl 3.3 pelawd.

Gallai Morgannwg fod wedi cipio ail wiced wrth i Luke Procter ergydio, ond fe ollyngodd Prem Sisodiya y bêl oddi ar fowlio Timm van der Gugten. Ond fe gollodd ei wiced yn o fewn dim o dro, wrth gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Ruaidhri Smith am 15, a’r sgôr yn 36 am ddwy.

Wrth i’r capten Alex Wakely a Ricardo Vasconcelos ddod at ei gilydd, fe lwyddon nhw i sefydlogi’r batiad, ac fe gyrhaeddodd Vasconcelos ei hanner canred yn fuan ar ôl cinio. Ond fe gafodd ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 56, a’i dîm yn 105 am dair.

Aeth Alex Wakely ymlaen i gyrraedd ei hanner cant wrth i Richard Levi ymuno â fe wrth y llain i’r Saeson. Cyrhaedodd Levi ei hanner canred oddi ar 92 o belenni, gan daro saith pedwar, yn ystod partneriaeth o 118 cyn i Wakely gael ei ddal yn y slip gan Usman Khawaja oddi ar fowlio Ruaidhri Smith am 82, a’r sgôr yn 223 am bedair.

Roedd gwaeth i ddod i’r Saeson, wrth i Adam Rossington gael ei ddal gan Andrew Salter yn y gyli wrth yrru i’r ochr agored oddi ar fowlio Smith am saith, a’r sgôr yn 231 am bump, a’r bowliwr yn cipio’i drydedd wiced yn y batiad.

Pum wiced mewn 17 pelen

Os oedd batwyr Swydd Northampton wedi cael y gorau ar fowlwyr Morgannwg, tro y bowlwyr oedd hi i daro’n ôl yn niwedd y batiad.

Ar ôl cipio pum wiced am bump yn erbyn Swydd Derby yn Abertawe, fe gipion nhw bum wiced olaf Swydd Northampton y tro hwn am chwe rhediad mewn 17 o belenni.

Daeth y chweched a’r seithfed wicedi i Timm van der Gugten oddi ar belawd ddi-sgôr – y belen gyntaf a’r drydedd belen gyda’r bêl newydd – wrth i Richard Levi gael ei ddal yn y slip gan Andrew Salter am 75, a Seekkuge Prasanna yn gyrru’n syth ar ochr y goes i’r eilydd o faeswr, Lukas Carey, a’r sgôr yn 275 am saith.

Steven Crook oedd yr wythfed batiwr allan, wrth i Michael Hogan daro’i goes o flaen y wiced, a’r sgôr yn 279 am wyth. Ac fe gipiodd Usman Khawaja ddaliad campus yn y slip i waredu Brett Hutton oddi ar fowlio Tim van der Gugten, a’r Saeson yn 281 am naw.

Roedden nhw i gyd allan am 281 pan gafodd Ben Sanderson ei fowlio heb sgorio, wrth i van der Gugten gipio’i bumed wiced gan orffen gyda 5-45.

Sgorfwrdd