Mae Kiran Carlson ac Usman Khawaja, batiwr tramor Morgannwg, wedi sicrhau bod Morgannwg yn dal yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby ar y diwrnod olaf ar gae San Helen yn Abertawe heddiw.

Ar ôl bod yn 48 am dair ar ôl colli tair wiced o fewn pedair pelawd, fe ddaeth y Cymro o Gaerdydd a’r Awstraliad at ei gilydd wrth i Forgannwg wynebu’r posibilrwydd cryf o golli’r gêm gyda thros ddiwrnod yn weddill.

Ond fe adeiladon nhw bartneriaeth ddi-guro o 153 i roi blaenoriaeth o 122 i Forgannwg yn eu hail fatiad. Erbyn diwedd y dydd, roedd Kiran Carlson heb fod allan ar 69 ac Usman Khawaja y pen arall i’r llain ar 79, wrth i Forgannwg gyrraedd 201 am dair.

Cafodd Swydd Derby eu bowlio allan am 362 yn gynharach yn y dydd, wrth i’r troellwr llaw chwith, Prem Sisodiya gipio tair wiced yn ei gêm gyntaf i Forgannwg.

Canred i Alex Hughes

Fe allai Morgannwg fod wedi cipio wiced yn ystod awr gynta’r trydydd diwrnod, wrth i’r troellwr Andrew Salter gynnig cyfle i Nick Selman am ddaliad yn y slip. Ond fe oroesodd Alex Hughes ar 87.

Fe gyrhaeddodd ei ganred oddi ar 180 o belenni, ar ôl taro deg pedwar, ond fe gollodd ei bartner Billy Godleman yn fuan wedyn, wrth i’r troellwr Andrew Salter daro’i goes o flaen y wiced am 24, a’r sgôr yn 257 am bedair.

Arweiniodd camddealltwriaeth at y bumed wiced, wrth i Alex Hughes, ar 103, gael ei redeg allan gan ei bartner Gary Wilson, a’r ddau fatiwr yn rhedeg tuag at yr un pen i’r llain. Y sgôr erbyn hynny oedd 265 am bump.

Un ar ôl y llall

Ychwanegodd Gary Wilson a Matthew Critchley 95 am y chweched wiced cyn i’r ymwelwyr golli eu pum wiced olaf am bum rhediad mewn 29 o belenni.

Cafodd Wilson ei redeg allan am 44 gan Prem Sisodiya, oedd hefyd wedi cipio tair o’r pedair wiced olaf, wrth fowlio Tony Palladino, taro coes Duanne Olivier o flaen y wiced a chreu daliad yn y slip i Nick Selman i waredu Ravi Rampaul.

Andrew Salter gipiodd y wiced arall, wrth i’r wicedwr Chris Cooke ddal Hamidullah Qadri. Roedd tri o’r pedwar batiwr olaf allan heb sgorio.

Gorffennodd Andrew Salter y batiad gyda phedair wiced am 105, ac roedd tair wiced i Prem Sisodiya am 54 yn ei gêm gyntaf i Forgannwg.

Morgannwg yn colli’u ffordd – a wicedi…

Roedd Morgannwg, felly, ar ei hôl hi o 79 ar ddechrau’r ail fatiad. Cawson nhw 44 ohonyn nhw cyn i’r troellwr Hamidullah Qadri daro coes Jack Murphy o flaen y wiced am 27. Ond roedd y penderfyniad yn un dadleuol, gan fod y batiwr yn ymddangos fel pe bai e wedi taro’r bêl â’i fat y tu allan i linell y wiced.

Collodd Morgannwg eu hail wiced pan darodd y troellwr coes Matt Critchley goes Nick Selman o flaen y wiced am 18 – un arall lle’r oedd yn ymddangos fel pe bai’r bat wedi taro’r bêl – ac fe ddilynodd Owen Morgan bedair pelen yn ddiweddarach am dri, wedi’i fowlio gan Qadri, a Morgannwg yn 48 am dair.

Partneriaeth sefydlog

Roedd hi’n ymddangos fel pe bai Usman Khawaja wedi cael ei ddal gan y bowliwr Matt Critchley heb sgorio, ond fe safodd ei dir ac fe wrthododd y dyfarnwyr yr apêl am y daliad. Ac fe oroesodd yn fuan wedyn, wrth i Alex Hughes ollwng daliad oddi ar yr un bowliwr.

Mewn partneriaeth â Kiran Carlson, arweiniodd yr Awstraliad Forgannwg i flaenoriaeth yn eu hail fatiad yn y sesiwn olaf. Fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 70 o belenni ar ôl taro pum pedwar ac un chwech anferth i gyfeiriad y môr ac yn fuan wedyn, fe gyrhaeddodd e a Carlson bartneriaeth o gant wrth i Carlson gyrraedd ei hanner canred oddi ar 62 o belenni ar ôl taro chwe phedwar.

Sgorfwrdd