Alviro Petersen
Kent 237  Morgannwg 258-4

Fe lwyddodd dau o chwaraewyr Morgannwg i gyrraedd 1,000 o rediadau am y tymor, ond fe gollodd y capten ei wiced un yn brin o’r nod.

Mae’r sir mewn sefyllfa gref yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn y tîm o Gaint, er bod glaw wedi effeithio ar y chwarae yn ystod yr ail ddiwrnod.

Gyda thair partneriaeth o fwy na 50 yn eu cario at 258-4 a blaenoriaeth o 21, roedd yna 54 i Gareth Rees, 83 heb fod allan i’r Awstraliad Stewart Walters a 41 heb fod allan i’r wicedwr Mark Wallace.

Cyrraedd y 1,000

Wallace oedd un o’r ddau a gyrhaeddodd y 1,000 ychydig ddyddiau ar ôl cael ei benodi’n gapten y sir ar gyfer y flwyddyn nesa’.

Ond methu o rediad a wnaeth y capten presennol, Alviro Petersen. Roedd hi’n ymddangos ei fod yn sicr o gyrraedd y targed, cyn cael ei ddal ar 21 – cyfanswm o 999 am y tymor.

Will Bragg a ddaeth i’r llain yn ei le a chyrraedd 25 – tri tros y nod am y tymor, ac yntau newydd arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd gyda’r sir.

Bwriad Morgannwg yn awr yw batio ymlaen er mwyn gosod targed uchel i Gaint a chael buddugoliaeth brin.