Fe fydd yr enw Gerddi Sophia yn cael ei arddel am y tro cyntaf ers 11 o flynyddoedd heddiw, wrth i dîm criced Morgannwg groesawu Swydd Gaint i Gaerdydd ar gyfer eu gêm gartref gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Fe ddaeth cytundeb y clwb â Swalec i ben ar ôl degawd – cafodd y cae ei adnabod wrth yr enw y Swalec SSE dros y blynyddoedd diwethaf.

Swydd Gaerloyw oedd y tîm diwethaf i chwarae yng ‘Ngerddi Sophia’, ac mae Morgannwg yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl curo’r sir honno yng ngêm gynta’r tymor ym Mryste a chael gêm gyfartal wedyn yn Lord’s yn erbyn Swydd Middlesex.

Mae Morgannwg bellach yn drydydd yn Ail Adran y Bencampwriaeth, ddau bwynt y tu ôl i Swydd Warwick, sydd ar y brig, ac fe allai buddugoliaeth dros y dyddiau nesaf gryfhau eu hymgais am ddyrchafiad ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Is-gapten newydd

 Mae Morgannwg o dan arweiniad y bowliwr cyflym Michael Hogan yn ei dymor llawn cyntaf yn gapten, ac fe gafodd y wicedwr Chris Cooke ei benodi’n is-gapten yn ddiweddar, ac yntau yn ei chweched tymor gyda’r sir.

“Ces i fy siomi o’r ochr orau pan wnaeth Michael Hogan ofyn i fi fod yn is-gapten, a dw i’n ei chael yn anrhydedd fawr.

“Mae gyda fi fwy o gyfrifoldeb, ond yn gweld y swydd fel estyniad o’r hyn ro’n i’n ei wneud o’r blaen.

“Fel wicedwr, ry’ch chi o hyd yn siarad â’r bowlwyr neu’r capten. Dyna natur rôl y wicedwr, a dw i’n mwynhau bob munud.”

Dechrau addawol

 Yn ôl Chris Cooke, mae’r tîm wedi datblygu cryn dipyn ers iddyn nhw guro Swydd Gaint yng Nghaergaint yng ngêm ola’r tymor diwethaf – eu buddugoliaeth gyntaf ar y cae hwnnw ers iddyn nhw ennill y Bencampwriaeth yn 1997.

“Fe wnaethon ni ddewis saith chwaraewr ifanc oedd wedi dod drwy’r Academi ar gyfer y gêm honno, a dim ond ambell chwaraewr mwy profiadol,” meddai’r chwaraewr sy’n enedigol o Dde Affrica.

“Ar ôl bod ar ei hôl hi o 73 yn y batiad cyntaf, fe wnaethon ni eu bowlio nhw allan yn rhad a chwrso 192 i ennill gyda diwrnod yn weddill.

“Fe chwaraeodd y chwaraewyr ifainc dros ei gilydd yng Nghaergaint, gan fagu hyder, ac roedd y fuddugoliaeth honno’n un o’r rhai gorau fues i’n rhan ohonyn nhw ers ymuno â’r clwb.”

Y gwrthwynebwyr

 Dechrau digon cymysg gafodd Swydd Gaint y tymor hwn, wrth gael eu bowlio allan ddwywaith yn erbyn Swydd Gaerloyw yn eu gêm gartref gyntaf, ond fe chwalon nhw Swydd Durham wedyn yn Chester-le-Street.

Ond mae Morgannwg yn llawn hyder, yn ôl Chris Cooke, er bod gan y Saeson is-hyfforddwr newydd profiadol, Allan Donald, cyn-fowliwr cyflym De Affrica.

Yn eu tro, cafodd Morgannwg eu hyfforddi cyn dechrau’r tymor yn Dubai, ac mae un o hoelion wyth y sir, Matthew Maynard wedi dychwelyd yn ymgynghorydd batio.

“Roedd ein taith cyn dechrau’r tymor i Dubai yn llwyddiant mawr,” meddai Chris Cooke, “ac fe gafodd pawb rywbeth allan ohoni.

“Fe wnaethon ni fwrw iddi ar ôl dychwelyd – dydyn ni ddim wedi sgorio dros 500 lawer iawn o weithiau yng ngêm gynta’r tymor fel y gwnaethon ni ym Mryste.

“Yn Lord’s, wnaethon ni ddim chwarae cystal ag y gallwn ni, ond roedd ennill triphwynt wrth fowlio’n fonws, ac roedd hi’n drueni i’r gêm gael ei difetha gan y tywydd.”

Mae disgwyl i’r bowliwr cyflym Marchant de Lange ddychwelyd i’r tîm i herio Swydd Gaint ac yn ôl Chris Cooke, mae gan Forgannwg lu o fowlwyr da i ddewis o’u plith.

“Mae’n fendith fod gyda ni fowlwyr cyflym da, a phob un wedi creu argraff yn y ddwy gêm gyntaf. Gyda chymaint o griced i’w chwarae dros y misoedd i ddod, mae’n beth synhwyrol i’w gorffwys nhw.”

Carfan Morgannwg: M Hogan (capten), N Selman, J Murphy, S Marsh, K Carlson, A Donald, C Cooke, A Salter, L Carey, M de Lange, T van der Gugten, R Smith

 Carfan Swydd Gaint: J Denly (capten), D Bell-Drummond, S Dickson, H Kuhn, Z Crawley, D Stevens, W Gidman, A Rouse, M Henry, H Podmore, I Thomas, A Riley

 

Sgorfwrdd