Doedd dim criced yn Lord’s ddydd Sadwrn oherwydd bod y cae yn wlyb yn sgil y glaw.

Cafwyd chwech archwiliad o’r cae, ond penderfynodd y dyfarnwyr Ian Gould a Rob Bailey am 5 o’r gloch nad oedd modd dechrau.

Mae disgwyl rhagor o law ar y diwrnod olaf ddydd Llun, felly mae’n debygol y bydd canlyniad y gêm yn cael ei benderfynu ddydd Sul – a gêm gyfartal yw’r canlyniad mwyaf tebygol.

Mae gan Forgannwg un pwynt bonws hyd yn hyn ar ôl cipio tair wiced.

Sgorfwrdd

Adroddiad: diwrnod 1