Graham Wagg - creu hanes (o wefan Morgannwg)
Kent 237 Morgannwg 2-0
Fe gafodd Morgannwg hwyl arni gyda’r bêl binc wrth greu ychydig o hanes yn y byd criced.
Fe lwyddon nhw i fowlio Kent am 237 yng Nghaergaint – yn y gêm dydd a nos gynta’ gyda’r bêl wahanol.
Y cynta’ i fowlio gyda’r bêl binc oedd Graham Wagg ac ef hefyd oedd y cynta’ i’w defnyddio hi o dan lifoleuadau.
Ond y troellwr, Dean Cosker, a gafodd y wiced gynta’ – gyda’i belen gynta’ – a’r bowliwr ifanc, John Glover, a gafodd y ffigurau gorau gyda 4 wiced am 49.
Y Cymro, Geraint Jones, oedd ail sgoriwr ucha’r tîm o Gaint, gyda 48.
Anarferol
Ar un adeg, roedd yna olwg anarferol iawn ar y sgorfwrdd hefyd, gyda’r pedair wiced gynta’n mynd i dri troellwr llaw chwith – fe drodd Wagg i droelli er mwyn cipio wiced, gan ddilyn wiced Cosker a dwy i Nick James.
Yn ogystal â Glover, sy’n ddim ond 22 oed, roedd Morgannwg yn rhoi cyfle cynta’ i’r bowliwr cyflym arall, Aneurin Norman.
Ar y diwedd, fe fu’n rhaid i Forgannwg wynebu pum pelawd, gan lwyddo i’w goroesi nhw heb golli wiced a gyda dau rediad.