Fe gafodd y capten, Alviro Petersen 144 rhediad mewn 89 tafliad i helpu Morgannwg ar eu ffordd i guro swydd Caerhirfryn o 69 rhediad yn eu gornest 40 pelawd Clydesdale Bank ym Mae Colwyn.

Cyhoeddodd Morgannwg gyfanswm enfawr o 328-4 o 33 pelawd yn unig; y cyfanswm mwyaf iddynt erioed ar y maes hwn yng Ngogledd Cymru.

Tarodd Petersen ddeg 6 yn ei amser wrth y crîs, ac fe gyfrannodd eraill yn sylweddol hefyd wrth i Graham Wagg a Stewart Walters gyraedd 75 oddi ar 25 o beli’n unig i ychwanegu at 199 agoriadol Petersen a Gareth Rees.

Fe fowliodd Dean Cosker yn ardderchog hefyd, gan gasglu pedair wiced am 43 o rediadau. Cafwyd ymdrech clodwiw gan Gaerhirfryn yn eu batiad hwy, ond methwyd a dal fyny gyda Morgannwg mewn gêm a gafodd ei heffeithio’n sylweddol gan law.