Mae Morgannwg wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r batiwr o Awstralia, Marcus North, ar gyfer y ddau dymor nesaf.

Bydd y batiwr llaw chwith, sy’n 32 oed, yn cymryd lle eu capten Alviro Petersen yn chwaraewr tramor y clwb. Fe fydd Petersen yn dychwelyd i Dde Affrica.

Mae North wedi chwarae 21 prawf a thair gêm un dydd i Awstralia ac fe gynrychiolodd ei wlad yn erbyn Lloegr ym mis Rhagfyr.

Morgannwg fydd y chweched sir ym Mhrydain iddo chwarae iddynt wedi cyfnodau gyda Swydd Derby, Durham, Caerloyw, Hampshire a Chaerlŷr.

Mae wedi llwyddo i gyreadd pum canrif mewn gemau prawf, gan cynnwys 125 (ddim allan) ym mhrawf cyntaf y Lludw yn Stadiwm Swalec yn 2009.

Bowliodd chwe wiced am 55 rhediad yn erbyn Pakistan yn Lords yn 2010.

“Dw i’n hynod ddiolchgar i Forgannwg am y cyfle i gael dod yn ôl i chwarae criced ym Mhrydain,” meddai.

“Dwi’n edrych ymlaen at gael profi beth sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Dewis capten

Bu Morgannwg hefyd yn ystyried arwyddo Simon Katich neu Ricky Ponting cyn penderfynu mynd ar ôl North.

Ond dyw’r hi ddim yn debygol y bydd North yn cael ei wneud yn gapten ar y garfan wedi i Petersen ymadael.

Mark Wallace, Gareth Rees a Jim Allenby yw’r ffefrynnau i gael eu henwebu i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw.

“Wedi cyhoeddi ymestyniadau i gytundebau Gareth Rees a Mark Wallace yr wythnos diwethaf, rydym ni wrth ein bodd i gael darn arall o’r jig-so yn ei le wrth arwyddo North,” meddai Colin Metson, rheolwr-gyfarwyddwr Morgannwg.

“Marcus fydd ein chwaraewr tramor ar gyfer tymhorau 2012 a 2013. Mae wedi cael gyrfa arbennig hyd yn hyn mewn criced rhyngwladol a domestig, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ei weld yn sgorio rhediadau ac yn dwyn wicedi dros Forgannwg.”

Bydd Morgannwg yng ngogledd Cymru trwy gydol yr wythnos hon, wrth iddynt gychwyn eu prawf yn erbyn Swydd Caerloyw ym mhencampwriaeth y Siroedd, cyn herio Swydd Caerhirfryn ar ddydd Sul mewn gem CB40.

Mae James Harris wedi dychwelyd i’r garfan 13 dyn i chwarae yn ei 50fed prawf i’r clwb.