Will Owen - pedair wiced
Somerset 201-8  Morgannwg 204-7

Roedd yna berfformiad mawr arall gan y bowliwr Will Owen wrth i Forgannwg guro un o dimau gorau’r gêmau undydd.

Fe gymerodd wiced gyda’i bedwaredd pelen a gorffen gyda 4-31, ei ail berfformiad pedair wiced yn olynol.

Gyda’r troellwr Dean Cosker yn bowlio’n dynn, gan ildio dim ond 29 rhediad mewn wyth pelawd, ac yn cymryd un daliad gwych, fe gafodd Gwlad yr Haf eu cyfyngu i ddim ond 201-8 yn eu 40 pelawd.

Roedd yna sgorio cadarn wrth i Forgannwg ymateb, gyda sgoria u o 36, 34 a 43 i Rees, Petersen a James.

Roedd hynny’n ddigon i sicrhau’r fuddugolieth gyda naw pelen a thair wiced yn weddill.

Er hynny, Gwlad yr Haf sy’n aros ar frig y grŵp,  gyda Morgannwg yn aros yn bumed.