Mark Wallace (o wefan Morgannwg)
Derbyshire 360 ac 15-1  Morgannwg 445

Fe lwyddodd Morgannwg i droi’r drol ar Derbyshire a gwneud yn union yr un peth â’r sir Seisnig, trwy daro’n ôl yn gry’.

Ar ôl i Derbyshire fynd o 97-6 i 360, fe wnaeth Morgannwg hyd yn oed yn well. Ar un adeg, roedd y Cymry mewn helynt mawr ar 69-5.

Fel yn achos Derbyshire, roedd dwy bartneriaeth yn dyngedfennol – 217 am y chweched wiced a record o 121 am y ddegfed.

Arwyr

Roedd yna bedwar arwr – fe gafodd Jim Allenby a Mark Wallace gant yr un, 113 i Allenby a 104 i’r wicedwr. Ond roedd dau fowliwr yn allweddol hefyd.

Fe lwyddodd y gogleddwr, Will Owen, i sgorio 69 ac roedd y bowliwr ifanc, James Harris, ar 60 ar y diwedd.

Fe lwyddodd yntau i dolcio Derbyshire ar ddechrau eu hail fatiad, gan gymryd wiced un o’r agorwyr mewn dwy belawd heb ildio rhediad.

Fe gafodd Morgannwg bwyntiau bonws llawn am fatio i ychwanegu at eu tri am fowlio. Bellach, maen nhw 70 ar y blaen.