Dalrymple - cyn-gapten Morgannwg yn wiced allweddol
Middlesex 150 a 293-6 Morgannwg 522
Roedd dwy wiced o fewn tair rhediad i’w gilydd yn ddigon i symud Morgannwg i olwg buddugoliaeth swmpus yn erbyn Middlesex.
A nhwthau’n ceisio cyrraedd targed o 372 i wneud i Forgannwg fatio eto, roedd Middlesex wedi cyrraedd 283-4 cyn i’r bowliwr ifanc James Harris daro.
Fe gafodd wared ar brif sgoriwr y Saeson, Chris Rogers, ac yna ar gyn-gapten Morgannwg, James Dalrymple.
Roedd capten Lloegr, Andrew Strauss, gyda 103, a Rogers, gyda 125, fel petaen nhw wedi rhoi llygedyn o obaith i Middlesex ond fe orffennon nhw’r diwrnod ar 293-6 – 79 yn brin gyda diwrnod ar ôl.
Fe fydd Morgannwg yn chwilio am wicedi cyflym heddiw, yn y gobaith o ennill o fatiad.
Dim ond pum rhediad arall a ychwanegodd Morgannwg bore ddoe, gyda Robert Croft yn mynd am 33 ar ôl colli Dean Cosker am 2.