James Harris - pum wiced
Mae Morgannwg mewn safle cry’ iawn ar ddiwrnod cynta’u gêm yn Lord’s yn erbyn Middlesex, y tîm sy’n ail yn Ail Adran y Bencampwriaeth.

Ar ôl cael gwared ar y Saeson am ddim ond 150 yn y batiad cynta’, fe brysurodd Morgannwg at 151-1 erbyn diwedd y dydd.

Y bowliwr ifanc, James Harris, oedd arwr y bowlwyr, gan gipio 5 wiced am 41, a hynny’n cynnwys capten Lloegr, Andrew Strauss, am ddim ond 8. Ac yntau wedi dathlu ei ben-blwydd yn 21 ddydd Llun, fe gafodd un cyfnod o 3 wiced am 6 rhediad.

Roedd yna ddwy wiced yr un i Owen a Wagg hefyd ac, yn eironig, prif sgoriwr Middlesex oedd James Dalrymple, cyn gapten Morgannwg a adawodd Gymru yn ystod gwrthdaro’r gaeaf.

Ei olynydd, Alviro Petersen, oedd yr unig un o fatwyr Morgannwg i golli’i wiced, am 29, tra aeth ei gyd agorwr Gareth Rees ymlaen i gyrraedd 55, gyda Will Bragg yn cyrraedd 57 gan daro’i hanner cant mewn o ddim ond 85 pelen.