Tom Maynard - rhoi pen ar fatiad Waters
Surrey 575-7 (cau) Morgannwg 377-9

Fe fydd rhaid i bartneriaeth ola’ Morgannwg gael 49 arall os ydyn nhw am orfodi Surrey i fatio am yr ail waith.

Fe fydd llawer yn dibynnu ar y bowliwr cyflym ifanc, James Harris, sydd eisoes ar 32 wrth i’r Cymry ail ddechrau ar 377 am 9. Mae’r troellwr Dean Cosker ar 9.

Bowliwr arall, Huw Waters, oedd un o arwyr Morgannwg wrth iddyn nhw sgorio’n gyson ond heb neb yn cael cyfanswm mawr yn Stadiwm SWALEC.

Ac yntau’n wyliwr nos, fe fatiodd Waters am fwy na 200 munud cyn cyrraedd 54 a chael ei redeg mas gan Tom Maynard, cyn fatiwr y sir.

Roedd yna 55 i Wallace a 48 i Wagg wrth i Forgannwg geisio dal cyfanswm Surrey o 575-7.

Mae’n edrych yn debyg y bydd rhaid iddyn nhw fatio trwy’r dydd heddiw i achub y gêm ond o leia’ roedd y sgôr ddoe yn ddigon i ennill y pedwerydd pwynt bonws am fatio.