Jim Allenby - yr asgwrn cefn
Mater o bawb yn sgorio ychydig oedd hi wrth i Forgannwg osod targed sylweddol ar gyfer Gloucestershire yng Nghaerdydd.

Fe lwyddodd y tîm o Gaerloyw i gipio dwy wiced gynnar fore ddoe i rwystro Morgannwg rhag cael sgôr anferth, ond fe lwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 370-9 cyn rhoi’r gorau iddi a gosod nod o 385 i’r Saeson.

Erbyn diwedd y dydd, roedd y rheiny wedi symud yn araf ond sicr at 42-0, gyda 33 o’r rhediadau hynny gan Ian Cockburn.

Jim Allenby oedd asgwrn cefn y dydd i Forgannwg yn sgorio 63, i ychwanegu at 68 Gareth Rees ar ddechrau’r batiad.

Fe gyfrannodd sawl un arall fatiadau bywiog, gan gynnwys y wicedwr Mike Wallace (37) a’r bowlwyr James Harris (25) a Dean Cosker (26 heb fod allan).

Fe fydd Morgannwg yn chwilio am wicedi cynnar heddiw ar y ffordd at fuddugoliaeth gynta’r tymor.