Ar ôl dechrau eu batiad ar 63-1 ar fore ola’r gêm Bencampwriaeth olaf yng Nghaerdydd y tymor hwn, ymarfer batio gafodd Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw wrth i’r ornest ddirwyn i ben yn gyfartal.

Cyrhaeddodd Nick Selman ei hanner canred oddi ar 85 o belenni ac roedd e wedi taro tri phedwar erbyn hynny. Fe gafodd ei gefnogi gan Andrew Salter, a gyrhaeddodd ei hanner canred yntau oddi ar 99 o belenni, ar ôl taro naw pedwar ac un chwech.

Ond ar ôl curo’i sgôr unigol gorau erioed o 84, cafodd Andrew Salter ei ddal gan George Hankins yn y slip oddi ar fowlio Jack Taylor am 88, a Morgannwg erbyn hynny’n 200-2.

Cyrhaeddodd Nick Selman ei ganred yn fuan wedyn – ei bedwerydd y tymor hwn yn y Bencampwriaeth. Fe wnaeth hynny oddi ar 166 o belenni, ac roedd e erbyn hynny wedi taro naw pedwar.

Daeth hanner canred Kiran Carlson oddi ar 38 o belenni, ac roedd e erbyn hynny wedi taro wyth pedwar a dau chwech wrth i Phil Mustard a Chris Dent – dau fatiwr – droi eu breichiau drosodd yn ystod sesiwn y prynhawn wrth i’r naill dîm a’r llall sylweddoli bod canlyniad positif allan ohoni unwaith ac am byth.

Roedd Kiran Carlson allan am 53 yn y pen draw, wrth i’r troellwr llaw chwith Chris Dent daro’i goes o flaen y wiced. Roedd e wedi adeiladu partneriaeth o 89 gyda Nick Selman am y drydedd wiced, wrth i Selman fynd heibio’i sgôr unigol gorau erioed o 119 mewn gêm dosbarth cyntaf.

Aeth y chwaraewyr oddi ar y cae mewn golau gwael am 2.55pm ac fe gawson nhw eu te yn gynnar. Dychwelon nhw i’r cae am ychydig belawdau cyn i’r golau waethygu unwaith eto ac ar ôl i Swydd Gaerloyw wrthod galw ar eu troellwyr ar ôl cymryd y bêl newydd, penderfynodd y dyfarnwyr dynnu’r chwaraewyr oddi ar y cae unwaith eto.

Roedd Nick Selman heb fod allan ar 142, a Chris Cooke heb fod allan ar 46.

Manylion

Ar ôl i Swydd Gaerloyw benderfynu bowlio, sgoriodd Morgannwg 4442 yn eu batiad cyntaf, wrth i Kiran Carlson, y batiwr 19 oed o Gaerdydd sgorio 191 – ei sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.

Sgoriodd Andrew Salter 84, ei sgôr unigol gorau erioed yntau mewn gêm dosbarth cyntaf, ac roedd hanner canred (51) i Chris Cooke. Cipiodd David Payne a Jack Taylor dair wiced yr un i Swydd Gaerloyw.

Wrth ymateb i fatiad cyntaf Morgannwg, sgoriodd Swydd Gaerloyw 399 mewn 110 o belawdau, gan golli allan ar bwyntiau bonws llawn o un rhediad ar ôl penderfynu parhau i fatio ar y trydydd diwrnod yn hytrach na chau’r batiad a gwneud gêm ohoni

Roedd Morgannwg yn 63-1 ar ddechrau’r dydd, ac roedd y diwrnod olaf yn gyfle i’r batwyr gael ymarfer eu batio, ac i fatwyr Swydd Gaerloyw ymarfer eu sgiliau bowlio wrth i’r ddau dîm sylweddoli’n weddol gynnar mai gêm gyfartal fyddai hi.

Daeth cadarnhad o’r canlyniad am 3.55pm, ac fe fydd Morgannwg yn gorffen eu tymor i lawr yng Nghaergaint yn erbyn Swydd Gaint yr wythnos nesaf.