Does dim lle i’r batiwr agoriadol Jacques Rudolph yng ngharfan Morgannwg ar gyfer gêm ola’r tymor yng Nghaerdydd yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Mae’r cyn-gapten yn ymddeol ar ôl y gêm yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint yr wythnos nesaf, a hynny ar ôl penderfynu rhoi’r gorau i fod yn gapten hanner ffordd drwy’r tymor hwn, a throsglwyddo’r rôl i’r bowliwr cyflym Michael Hogan.

Mae disgwyl i’r batiwr ifanc Connor Brown, sy’n cynrychioli tîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC, agor y batio yn ei le yn ei gêm gyntaf dros y sir, ac mae’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald yn dychwelyd i’r garfan.

Un arall sy’n ysu am gael perfformio’n dda ar ddiwedd y tymor yw’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith sydd wedi bod allan am rannau helaeth o’r tymor gydag anafiadau. Yn ei unig gêm dros Forgannwg eleni, fe gipiodd e bum wice yn erbyn Swydd Sussex yn Llandrillo-yn-Rhos.

Dywedodd: “Ro’n i’n eitha hapus gyda fy mherfformiad ym Mae Colwyn ac ar y cyfan, ro’n i’n falch iawn gyda’r ffordd ddaeth y bêl allan a’r ffordd wnes i fowlio.”

Gemau’r gorffennol

Collodd Morgannwg o ddeg wiced o fewn deuddydd yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham y tymor hwn, ac mae’r tîm yn “ysu i wneud yn iawn am y golled honno”, meddai Ruaidhri Smith.

Y Saeson, hefyd, oedd yn fuddugol yng Nghaerdydd y tymor diwethaf wrth i Hamish Marshall o Seland Newydd daro canred wrth i’w yrfa ddirwyn i ben gyda buddugoliaeth o ddeg wiced.

Gêm gyfartal gafwyd yng Nghaerdydd yn 2014 oherwydd y glaw, ond y Cymry oedd yn fuddugol yn 2013 wrth i Michael Hogan gipio’i ganfed wiced y tymor hwnnw. Hon oedd pedwaredd fuddugoliaeth Morgannwg o’r bron yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghymru.

Cyn y tymor diwethaf, doedd y Saeson ddim wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2005, wrth i Chris Taylor daro 176 mewn buddugoliaeth o saith wiced.

Carreg filltir

Mae carreg filltir ar y gorwel i gapten Morgannwg ar ddiwedd y tymor.

Mae angen naw wiced ar Michael Hogan i gyrraedd 500 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa – a 267 ohonyn nhw dros Forgannwg.

Morgannwg: N Selman, C Brown, C Ingram, K Carlson, A Donald, C Cooke, A Salter, C Meschede, R Smith, M de Lange, M Hogan (capten)

Swydd Gaerloyw: P Mustard (capten), C Dent, J Bracey, B Howell, G Hankins, J Taylor, K Noema-Barnett, J Shaw, M Taylor, L Norwell, D Payne

Sgorfwrdd