Mae gêm griced Morgannwg oddi cartref yn erbyn Swydd Derby wedi gorffen yn gyfartal heb i’r un belen gael ei bowlio ar y diwrnod olaf.

Roedd glaw trwm dros nos yn golygu nad oedd hi’n bosib ail-ddechrau heddiw yn dilyn cyfnodau hir o law ers dechrau’r gêm ddydd Mawrth.

Mae Morgannwg wedi cael wyth pwynt o’r gêm, a Swydd Derby wedi cael chwech, sy’n golygu bod Morgannwg yn seithfed yn y tabl gyda thair gêm o Bencampwriaeth y Siroedd yn weddill y tymor hwn.

Cipiodd Lukas Carey dair wiced, ac roedd dwy yr un i Marchant de Lange, Craig Meschede a’r capten Michael Hogan.

Bydd gêm nesaf Morgannwg yng Nghaerdydd yn erbyn Swydd Northampton yn dechrau ddydd Mawrth.