Mae Morgannwg yn dechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Sussex heddiw, 215 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf yr ymwelwyr, a hynny diolch i bartneriaeth o 72 rhwng Kiran Carlson a Nick Selman ar ôl dechrau sigledig.

Roedden nhw heb hanner dwsin o’u chwaraewyr mwyaf profiadol wrth iddyn nhw orffwys ar gyfer Diwrnod Ffeinals y T20 Blast yn Edgbaston ddydd Sadwrn, ac felly fe gafodd y Cymry ifainc yn y garfan gyfle yn hwyr yn y tymor.

Dechrau siomedig

Morgannwg fatiodd yn gyntaf ar ôl i’r Saeson eu gwahodd i fatio, er bod y llain yn Llandrillo yn Rhos fel arfer yn cynnig tipyn o gefnogaeth i’r batwyr yn gynnar yn y gêm. Ond y Saeson fanteisiodd fwyaf ar yr amodau yn y sesiwn gyntaf, wrth gipio dwy wiced gyntaf Morgannwg am 15 rhediad, a hynny ar ôl 33 o belenni di-sgôr yn olynol.

Y Cymro Cymraeg o Bontarddulais, Owen Morgan oedd y batiwr cyntaf allan, wrth i’r bowliwr cyflym Jofra Archer ddarganfod ei goes o flaen y wiced i gipio’i hanner canfed wiced yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac yntau yn ei dymor llawn cyntaf fel cricedwr proffesiynol.

Doedd hi ddim yn hir cyn iddo gipio’i ail wiced, y chwaraewr amryddawn Jack Murphy, yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf dros Forgannwg, yn darganfod dwylo diogel Chris Nash yn y slip. Aeth pethau o ddrwg i waeth i Forgannwg wrth iddyn nhw golli Aneurin Donald a’r cyfanswm ar 24, wrth iddo gael ei ddal gan y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Ollie Robinson, bowliwr cyflym sy’n chwarae yn ei gêm pedwar diwrnod gynta’r tymor hwn.

Adeiladodd y batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson a’r Awstraliad ifanc Nick Selman bartneriaeth o 72 am y bedwaredd wiced i gynnig sefydlogrwydd i Forgannwg cyn cinio, ond roedd y Cymro ifanc allan am 47 wrth i Jofra Archer ddarganfod ei goes o flaen y wiced i gipio’i drydedd wiced, a Morgannwg yn 114-4 erbyn yr egwyl.

Brwydro’n ôl

Cyrhaeddodd Nick Selman ei hanner canred oddi ar 101 o belenni yn fuan ar ôl cinio, ac yntau wedi taro naw pedwar.

Ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r troellwr o Sir Benfro, Andrew Salter golli ei wiced, wedi’i ddal gan Chris Nash yn y slip oddi ar fowlio Ollie Robinson ar ôl i’r bowliwr daro dolen y bat. Dilynodd Nick Selman yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Chris Jordan am 58, a Morgannwg yn 148-6.

Aeth Morgannwg heibio’r 200 o fewn dim o dro wrth i’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede ddechrau’n gadarn, a’r bêl yn diflannu i lawr Rhodfa’r Penrhyn yn ystod cyfres o ergydion.

Fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 66 o belenni ac erbyn hynny, roedd e eisoes wedi taro chwe phedwar ac un chwech. Roedd e’n 69 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 240-6 erbyn amser te, ac yntau wedi adeiladu partneriaeth o 92 gyda Tom Cullen – wicedwr ifanc o Awstralia sy’n astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn chwarae yn ei ail gêm dros y sir.

Roedd y ddau wedi adeiladu partneriaeth o 100 erbyn i Forgannwg gyrraedd 250, ond fe gollodd y Cymry eu seithfed wiced ar 256, wrth i Chris Jordan ddarganfod coes y wicedwr o flaen y wiced am 42, i ddod â phartneriaeth o 108 i ben.

Er i Craig Meschede barhau i frwydro nôl, fe gollodd e ddau bartner o fewn dim o dro, wrth i Ruaidhri Smith gael ei fowlio gan Chris Jordan heb sgorio, cyn i Lukas Carey gael ei ddal gan Luke Wells wrth geisio tynnu pelen fer gan Ollie Robinson, a’r sgôr yn 283-9.

Craig Meschede oedd y batiwr olaf allan, a hynny am 87, wedi’i fowlio gan Ollie Robinson wrth i Forgannwg orffen eu batiad ar 294, a’r bowliwr yn cipio pedair wiced am 46. Roedd tair wiced yr un i Jofra Archer a Chris Jordan.

Swydd Sussex yn ymateb

Dechreuodd y Saeson yn gryf, er y gallai Luke Wells fod wedi cael ei ddal gan Andrew Salter yn y slip ar 16, a’r sgôr yn 35-0. Ond wnaeth e ddim para’n hir, wrth iddo gael ei fowlio gan Lukas Carey yn y nawfed pelawd, a’r sgôr yn 50.

Dilynodd Stiaan van Zyl yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Craig Meschede wrth ergydio’n wyllt ar yr ochr agored.

Danny Briggs oedd y trydydd batiwr allan, wrth i Ruaidhri Smith daro ei goes o flaen y wiced, a Swydd Sussex mewn ychydig o drafferth ar 74-3.

Erbyn diwedd y dydd, roedden nhw’n 79-3, ar ôl i’r agorwr Gus Robson orffen heb fod allan ar 44, a Chris Nash heb fod allan am bedwar.

Sgorfwrdd