Lukas Carey... allan, o bosib
Mae disgwyl i’r bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey golli ei le yn nhîm Morgannwg ar gyfer y gêm ugain pelawd yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd nos Iau.

Fe gipiodd e wiced yn ei gêm ugain pelawd gyntaf i’r sir oddi cartref yn Swydd Gaint ddydd Sul, ond mae’r Iseldirwr Timm van der Gugten wedi gwella o salwch, ac mae disgwyl iddo ddychwelyd yn syth i’r tîm.

Daw’r newyddion ar ôl i brif weithredwr y sir, Hugh Morris ategu eto’n ddiweddar fod lle i’r Cymry yn y tîm – ond dim ond os ydyn nhw’n ddigon da.

Mae Morgannwg ar frig y tabl ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw’n mynd am ail fuddugoliaeth dros eu gwrthwynebwyr yn y gystadleuaeth.

Hon fydd gêm olaf – y batiwr o Dde Affrica, David Miller ar ôl i’r gemau yn erbyn Swydd Essex a Swydd Surrey gael eu canslo oherwydd y glaw.

Mae’r ddau Gymro Kiran Carlson a David Lloyd wedi’u hanafu o hyd.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), L Carey, C Cooke, T Cullen, M de Lange, A Donald, M Hogan, C Ingram, C Meschede, D Miller, A Salter, N Selman, R Smith, T van der Gugten, G Wagg.

Carfan Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), P Mustard, I Cockbain, G Hankins, G Roderick, G van Buuren, J Taylor, B Howell, K Noema-Barnett, T Perera, T Smith, D Payne, C Liddle, M Taylor.