Ar ôl i’r glaw roi terfyn ar eu gêm yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd neithiwr, mae batiwr Morgannwg Colin Ingram yn edrych ymlaen at herio Swydd Essex yn Chelmsford y prynhawn yma yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast (2.30pm).

Dim ond 17.2 pelawd oedd yn bosib neithiwr, ond fe darodd y batiwr o Dde Affrica 39 oddi ar 21 o belenni wrth i Forgannwg sgorio 171-5 cyn i’r glaw roi terfyn ar yr ornest.

Ac fe sgoriodd e ganredd oddi ar 46 o belenni yn erbyn Swydd Sussex yng nghastell Arundel yr wythnos ddiwethaf, y canred cyflymaf erioed i Forgannwg mewn gêm ugain pelawd.

Mae Colin Ingram eisoes wedi taro canred yn erbyn Swydd Essex y tymor hwn, gan sgorio 142 wrth i Forgannwg eu curo yng Nghaerdydd yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.

Ac fe darodd e ganred oddi ar 55 o belenni ar gae Chelmsford y tymor diwethaf cyn i’r ornest ddod i ben yn gynnar oherwydd y glaw.

‘Brwydr dda’

Dywedodd Colin Ingram: “Dw i wir yn mwynhau chwarae yno. Mae’r llain bob amser yn dda, ac mae’r dorf ragfarnllyd yn rhoi hwb i fi, a dw i’n ei chael yn frwydr dda.

“Mae hi bob amser yn gystadleuaeth dda a bydd Swydd Essex yn ein taro ni’n galed, yn enwedig ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf.”

Y timau

Does dim newid yng ngharfan Morgannwg, wrth i Kiran Carlson barhau i wella o anaf i’w goes.

Carfan Swydd Essex: R ten Doeschate (capten), J Foster, Mohammad Amir, R Bopara, V Chopra, M Dixon, S Harmer, D Lawrence, J Porter, C Taylor, P Walter, T Westley, A Wheater, A Zaidi

Carfan Morgannwg: D Lloyd, A Donald, J Rudolph (capten), C Ingram, C Cooke, G Wagg, C Meschede, A Salter, O Morgan, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan