Ar ôl i Forgannwg golli o 22 o rediadau yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd nos Wener, yr un garfan sydd wedi teithio i gastell Arundel i herio Swydd Sussex heddiw (2.30pm) yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Hwn yw ymweliad cyntaf erioed Morgannwg â’r cae sy’n adnabyddus am gynnal gêm flynyddol rhwng tîm Dug Norfolk a thimau rhyngwladol.

Mae capten Morgannwg ar gyfer y gystadleuaeth, Jacques Rudolph yn hyderus y gall Morgannwg ailadrodd llwyddiant 2016 wrth iddyn nhw gyrraedd rownd wyth ola’r gystadleuaeth cyn colli yn erbyn Swydd Efrog.

Bydd e’n ymddeol ar ddiwedd y tymor, ac mae e eisoes wedi rhoi’r gorau i fod yn gapten ar y tîm yn y Bencampwriaeth.

“Dw i am fwynhau gweddill y tymor gymaint ag y galla i,” meddai. “A pha well ffordd i ddod â’r cyfan i ben na chyrraedd Diwrnod y Ffeinals a rhoi rhywbeth i’n cefnogwyr ffyddlon ei ddathlu dros y misoedd nesaf.

“Dw i wedi mwynhau fy ngyrfa ma’s draw dros yr ugain mlynedd diwethaf, a gyda’r un garfan â’r llynedd, fwy neu lai, does dim rheswm pam na ddylen ni wneud yn dda eto.”

Fe fydd y Cymry ifainc, Kiran Carlson a David Lloyd yn gobeithio gosod eu stamp ar y gêm ar ôl dychwelyd i’r garfan ar gyfer y gemau ugain pelawd.

Dywedodd bowliwr cyflym Morgannwg, Graham Wagg: “Dw i ddim yn credu bod llawer o’n chwaraewyr ni wedi bod i Arundel a dw i ddim wedi chwarae yno ers rhai blynyddoedd.

“Byddwn ni’n mynd yno’n teimlo’n bositif gan ein bod ni wedi paratoi’n dda fel carfan ac ry’n ni wedi profi dros nifer o flynyddoedd ein bod ni’n dîm da gyda’r bêl wen.”

Marchant de Lange

Ond un arall o’r bowlwyr cyflym, Marchant de Lange sydd wedi dal sylw’r capten a’i gydwladwr Jacques Rudolph.

“Mae Marchant yn sicr o greu argraff i ni. Mae ganddo fe record dda iawn mewn gemau undydd ac fe fydd e’n dipyn o gaffaeliad i’n carfan undydd ni.

Carfan Morgannwg: D Lloyd, A Donald, J Rudolph (capten), C Ingram, K Carlson, C Cooke, G Wagg, C Meschede, A Salter, O Morgan, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan

Carfan Swydd Sussex: R Taylor (capten), C Jordan, W Beer, B Brown, D Briggs, C Nash, L Wright, S van Zyl, L Evans, P Salt, D Wiese, G Garton, J Archer

Sgorfwrdd