Colin Ingram
Mae cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn gyfle i Forgannwg achub eu tymor, yn ôl capten y tîm ar gyfer y gystadleuaeth, Jacques Rudolph.

Cyhoeddodd y batiwr o Dde Affrica yn ddiweddar ei fod yn ymddeol o’r byd criced ar ddiwedd y tymor, ac fe ildiodd y gapteniaeth yn y Bencampwriaeth i Michael Hogan.

Ond mae e’n ôl wrth y llyw ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd ac yn gobeithio gwneud yn iawn am y dechrau siomedig i’r tymor gyda’r bêl goch – a phinc.

Cafodd Morgannwg dymor llwyddiannus mewn gemau undydd y tymor diwethaf. Roedden nhw un fuddugoliaeth yn brin o sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, ac fe gyrhaeddon nhw wyth ola’r T20 Blast.

Maen nhw’n dechrau eu hymgyrch heno yn erbyn Swydd Hampshire (6.30pm).

‘Chwarae gydag awdurdod’

Dywedodd Jacques Rudolph: “Ry’n ni’n dîm sy’n ymfalchïo yn ein perfformiadau mewn gemau â’r bel wen. Ry’n ni wedi curo timau mawr ag enwau mawr yn eu plith.

“Mae’n fformat lle gallwn ni chwarae â chryn dipyn o awdurdod.

“Mae gyda ni fowlwyr cryf, ffrwydrol a chanddyn nhw’r ‘x factor’, fel Marchant de Lange a Timm van der Gugten, ynghyd â phrofiad Michael Hogan a Graham Wagg.”

Roedd bowlwyr Morgannwg yn ddibynadwy a chyson drwyddi draw mewn gemau undydd y tymor diwethaf, ond gyda’r bat y creon nhw’r argraff fwyaf yn 2016.

Gorffennodd Colin Ingram ar frig rhestr cyfartaleddau batio Morgannwg gyda 502 o rediadau, gan gynnwys canred a phedwar hanner canred. Sgoriodd y Cymro ifanc o Lanelwy, David Lloyd 382 o rediadau hefyd.

Y Cymry

Ychwanegodd Jacques Rudolph: “Gyda’r bat, fe chwaraeon ni gyda chryn dipyn o ryddid. Cafodd Colin dymor anhygoel a bydd David Lloyd yn ei chanol hi hefyd. Mae e’n un o’r to iau o Gymry sy’n torri drwodd ac mae’n gyfle da iddo fe ddychwelyd i’r tîm.”

Un o’r Cymry ifainc eraill sy’n dychwelyd i’r garfan yw’r batiwr o Gaerdydd, Kiran Carlson.

Hefyd yn dychwelyd mae Craig Meschede, y chwaraewr amryddawn sy’n enedigol o Dde Affrica.

Mae’r ddau wedi perfformio’n dda yn yr ail dîm eleni.

Carfan Morgannwg: D Lloyd, J Rudolph (capten), C Meschede, A Donald, A Salter, C Ingram, C Cooke, G Wagg, O Morgan, K Carlson, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan

Carfan Swydd Hampshire: J Vince (capten), L McManus, R Topley, Shahid Afridi, S Ervine, C Wood, M Carberry, R Rossouw, G Bailey, B Wheal, G Berg, K Abbott, W Smith, M Crane.

Sgorfwrdd