Mae Morgannwg wedi dioddef colled drom o ddeg wiced ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham.

Dyma’u trydedd colled o’r bron yn y gystadleuaeth.

Cwympodd 25 o wicedi ar ddiwrnod cynta’r gêm ddoe.

Ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd ymchwiliad i gyflwr y cae sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Gŵyl Griced Cheltenham ar gaeau’r coleg.

Y diwrnod cyntaf

Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio, a chael eu bowlio allan am 117 – Aneurin Donald oedd y prif sgoriwr yn y batiad gyda 39, wrth i David Payne gipio tair wiced, a dwy yr un i Liam Norwell, Craig Miles a Kieran Noema-Barnett.

Kieran Noema-Barnett oedd prif sgoriwr Swydd Gaerloyw gyda 34, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 141 i roi mantais batiad cyntaf iddyn nhw o 24.

Roedd tair wiced yr un i Marchant de Lange, Timm van der Gugten a Michael Hogan, a Graham Wagg yn cipio’r llall.

Erbyn diwedd y dydd, roedd Morgannwg yn 59-5, 35 o rediadau ar y blaen i’r Saeson.

Yr ail ddiwrnod

Ar ôl ail-ddechrau ar 59-5, goroesodd Morgannwg awr gynta’r ail ddiwrnod cyn colli dwy wiced o fewn dim o dro, a’r ddau yn benderfyniadau amheus.

Y batiwr cyntaf allan oedd Timm van der Gugten, wrth i Kieran Noema-Barnett daro’i goes o flaen y wiced am 17, a’r sgôr yn 100-6. Roedd ac Andrew Salter wedi ychwanegu 46 am y chweched wiced.

Dilynodd Andrew Salter yn y belawd ganlynol, wrth i’r bowliwr Craig Miles apelio yn y lle cyntaf am goes o flaen y wiced, ac yna am ddaliad gan y wicedwr Gareth Roderick. Fe gafodd yr ail apêl drugaredd, ac roedd y batiwr ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn am 31, a’r sgôr yn 104-7.

Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd 140-7 erbyn amser cinio, ond fe gollon nhw eu tair wiced olaf o fewn 40 munud ar ôl yr egwyl.

Graham Wagg oedd yr wythfed dyn allan, wrth i Liam Norwell daro’i goes o flaen y wiced am 30, a’r sgôr yn 150-8. Ychwanegodd Chris Cooke a Marchant de Lange wyth rhediad at y sgôr cyn i de Lange gael ei ddal yn y cyfar oddi ar Norwell am ddau.

Ac fe gollodd Michael Hogan ei wiced i’r un cyfuniad wrth i fatiad Morgannwg ddod i ben ar 158, gan osod nod o 135 i Swydd Gaerloyw am y fuddugoliaeth. Gorffennodd Liam Norwell gyda chwe wiced am 38.

Wrth i Cameron Bancroft a Chris Dent agor y batio i Swydd Gaerloyw, fe gyrhaeddon nhw’r 50 saith a hanner o belawdau cyn te. Daeth hanner cyfle i’r troellwr Andrew Salter gipio daliad oddi ar ei fowlio’i hun pan oedd Chris Dent ar 35, a’r sgôr yn 80-0, ond fe ollyngodd ei afael ar y bêl.

Aeth y pâr heibio’r 100 wrth i Chris Dent gyrraedd ei hanner canred oddi ar 88 o belenni, gyda chyfres o ergydion ymosodol i’r ffin. Cyrhaeodd Cameron Bancroft ei hanner canred yntau wrth i’r pâr gipio’r fuddugoliaeth o ddeg wiced.

Sgorfwrdd