Owen Morgan (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais, Owen Morgan yn nhîm Morgannwg unwaith eto, ar ôl colli ei le yn gynnar yn y tymor.

Fe ddychwelodd e i’r tîm ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yr wythnos ddiwethaf – gêm a gafodd ei defnyddio fel arbrawf ar gyfer gêm brawf Lloegr yn erbyn India’r Gorllewin, a fydd yn cael ei chwarae o dan y llifoleuadau â phel binc newydd.

Mae e wedi llwyddo i gadw ei le yn y tîm ar gyfer y daith i Cheltenham i wynebu Swydd Gaerloyw mewn gêm a ddechreuodd heddiw.

Yn ail bennod Dyddiadur Owen Morgan, mae e’n rhoi ei farn am y gêm yr wythnos ddiwethaf, y bêl binc a’i obeithion ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, sy’n dechrau i Forgannwg nos Wener gyda gêm yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd.