Mae Swydd Derby wedi curo Morgannwg o 39 o rediadau wrth i’r troellwr 16 oed Hamidullah Qadri gipio pum wiced yn yr ail fatiad yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Swydd Derby yn y Bencampwriaeth ers mis Gorffennaf 2015 – neu 710 o ddiwrnodau.

Roedd angen 212 ar y Cymry i ennill y gêm arbrofol o dan y llifoleuadau, ond fe gawson nhw eu bowlio allan am 172 cyn te ar y diwrnod olaf ar lain oedd yn troi i helpu Qadri, Jeevan Mendis a Wayne Madsen, oedd wedi cipio naw wiced rhyngddyn nhw.

Manylion y diwrnod cyntaf

Ar ôl colli’r batiwr agoriadol Luis Reece ar ôl 3.4 pelawd ar ôl penderfynu batio’n gyntaf, daeth achubiaeth i Swydd Derby drwy bartneriaeth o 98 rhwng Billy Godleman a Wayne Madsen. Ond collodd y ddau eu wicedi wrth i’r wicedwr Chris Cooke sicrhau dau ddaliad.

Ond collodd Swydd Derby dair wiced am bedwar rhediad wedyn – gan roi trydydd daliad i Cooke – ac fe aethon nhw o 139-4 i 143-6 yn ystod cyfnod o gryn bwysau gan fowlwyr Morgannwg.

Yn ei ail gêm ar ôl dychwelyd o anaf i’w goes, cipiodd Graham Wagg ei wiced gyntaf yng Nghymru yn 2017 wrth ddarganfod coes Alex Hughes o flaen y wiced. Fe gafodd ei ail wrth i Nick Selman sicrhau daliad campus i waredu Jeevan Mendis.

Cafodd Chris Cooke bedwerydd daliad i waredu Tom Taylor cyn i bartneriaeth o 66 rhwng Tom Milnes (53) a Daryn Smit (41) o dan y llifoleuadau roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr.

Wrth i Milnes adael, daeth Hamidullah Qadri i’r llain ac yntau’n 16 oed – y chwaraewr cyntaf i’w eni ers 2000 i chwarae criced sirol a’r ieuengaf erioed i’w sir yn y Bencampwriaeth. Ond daeth batiad Swydd Derby i ben yn fuan wedyn am 288, bedair pelawd cyn diwedd y diwrnod cyntaf.

Yr ail ddiwrnod

Agorodd y noswyliwr Timm van der Gugten mewn modd aeddfed wrth iddo fe ychwanegu 49 gyda Jacques Rudolph. Ond cipiodd Tony Palladino dair wiced o fewn 14 o belenni cyn i Colin Ingram golli ei wiced cyn te, a’r sgôr yn 87-4 erbyn yr egwyl.

Brwydrodd Aneurin Donald a Nick Selman yn ôl wrth i Forgannwg gyrraedd 170-6 cyn i Donald golli ei wiced.

Cyrhaeddodd Selman ei hanner canred cyn i’r troellwyr Jeevan Mendis a Hamidullah Qadri gipio wiced yr un i adael Morgannwg yn 198-8.

Ychwanegodd Graham Wagg a Marchant de Lange 39 at y cyfanswm, ond fe gollodd y ddau eu wicedi o fewn dim o dro i’w gilydd wrth i Palladino orffen gyda phedair wiced am 36 cyn agor y batio, a Swydd Derby yn 2-0 erbyn diwedd y dydd.

Y trydydd diwrnod

Dechreuodd y gêm bedair awr yn hwyr am 6 o’r gloch oherwydd y glaw ac fe gipiodd Marchant de Lange ddwy wiced mewn pelawdau olynol i waredu Tony Palladino a Tom Taylor, gan adael Swydd Derby mewn trafferth ar 7-2. Wrth i Billy Godleman a Wayne Madsen fynd allan, roedd yr ymwelwyr yn 72-4 erbyn amser te, 123 o rediadau ar y blaen.

Er i Luis Reece sgorio 55, roedd Swydd Derby yn 117-7 erbyn yr egwyl, ac fe lithron nhw ymhellach i 126-8, gan gyrraedd 160 i gyd allan, gan osod nod o 212 i Forgannwg am y fuddugoliaeth.

Batiodd Jacques Rudolph a Timm van der Gugten am 5.5 pelawd cyn i Jeevan Mendis ddarganfod coes Rudolph o flaen y wiced oddi ar belen ola’r dydd, a Morgannwg yn 0-1.

Y diwrnod olaf

Goroesodd Timm van der Gugten lai na chwe phelawd ar ddechrau’r diwrnod olaf cyn i Luis Reece sicrhau daliad campus ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Hamidullah Qadri.

Daeth Owen Morgan i’r llain a dechrau mewn modd amddiffynnol yn erbyn y troellwyr. Ond fe gafodd ei ddal yn y slip gan Gary Wilson oddi ar fowlio Mendis am saith cyn i Colin Ingram roi daliad i Billy Godleman oddi ar fowlio Hamidullah Qadri, ac roedd Morgannwg yn 42-4.

Collodd Aneurin Donald ei wiced ar ôl ychwanegu 50 gyda Nick Selman wrth i’r maeswr agos Alex Hughes ei ddal oddi ar fowlio Wayne Madsen, a Morgannwg yn 92-5.

Cafodd Selman ei stympio wedyn i lawr ochr y goes oddi ar yr un bowliwr, a Morgannwg yn 99-6.

Cipiodd Hamidullah Qadri y ddwy wiced nesaf, wrth daro coes Andrew Salter o flaen y wiced a chafodd Graham Wagg ei ddal gan y wicedwr Daryn Smit wrth i Forgannwg gyrraedd 135-8.

Dryswch pur arweiniodd at golli’r nawfed wiced, wrth i Chris Cooke gael ei redeg allan gan Billy Godleman wrth geisio rhediad cyflym gyda Marchant de Lange, a Morgannwg yn 160-9.

Cipiodd Hamidullah Qadri ei bumed wiced yn y batiad i sicrhau’r fuddugoliaeth wrth i’r capten Michael Hogan gael ei ddal gan Jeevan Mendis, a Morgannwg i gyd allan am 172, a Swydd Derby yn ennill o 39 o rediadau.