Mae tîm criced Iwerddon wedi ennill yr hawl i chwarae mewn gemau prawf ar ôl i Fwrdd Criced Iwerddon ddod yn aelod llawn o’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC).

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi yn dilyn cyfarfod o’r ICC yn Llundain heddiw.

Maen nhw wedi bod yn chwarae mewn gemau cysylltiol ers 1993, gan gynnwys Cwpan y Byd – ac maen nhw eisoes wedi curo Lloegr, Pacistan ac India’r Gorllewin.

Ond yn lle cael chwarae gemau undydd yn unig, fe fydd Iwerddon bellach yn gallu chwarae mewn gemau pum niwrnod yn erbyn timau gorau’r byd.

Mae Afghanistan hefyd wedi ennill statws tîm prawf, sy’n golygu bellach fod 12 o dimau prawf yn y byd.

‘Diwrnod hanesyddol’

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Gary Wilson, un o gricedwyr y wlad, ei fod yn “ddiwrnod hanesyddol i griced yn Iwerddon”.

“Mae’n teimlo fel pe bai blynyddoedd o waith wedi cael cydnabyddiaeth. Mae cynifer o bobol yn y cefndir wedi gwneud i hyn ddigwydd.”

Ychwanegodd mai “dim ond y dechrau yw hyn”.

A dyma ddechrau’r ymateb yng Nghymru: