Mae gan Forgannwg lygedyn o obaith o sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Swydd Durham ar ddiwrnod olaf eu gornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn Durham.

Fe ddechreuon nhw’r pedwerydd diwrnod ar 92-2 yn eu hail fatiad, 15 rhediad y tu ôl i’r Saeson gydag wyth wiced yn weddill.

Roedden nhw wedi colli eu dau fatiwr agoriadol, Jacques Rudolph a Nick Selman yn hwyr ar y trydydd diwrnod.

Fe allai Swydd Durham fod wedi sicrhau mantais batiad cyntaf llawer mwy sylweddoli pe na baen nhw wedi colli pum wiced am chwe rhediad yng nghanol eu batiad, wrth i’r bowliwr cyflym Marchant de Lange gipio pum wiced am 95.

Cyrhaeddodd y capten Michael Hogan y garreg filltir o 250 o wicedi dosbarth cyntaf i Forgannwg yn ystod y batiad hefyd.

Ond fe darodd y Saeson yn ôl wrth i Barry McCarthy (30) a Chris Rushworth (38) ychwanegu 68 am y wiced olaf. Roedd y bartneriaeth yn allweddol wrth iddyn nhw gyrraedd 402 i sicrhau pwyntiau batio llawn.

Sgorfwrdd