Mae’r wicedwr 25 oed Tom Cullen, oedd wedi arwain Prifysgol Caerdydd yn eu llwyddiant wrth ennill Pencampwriaeth Undydd Prifysgolion yr MCC ar gae Lord’s yr wythnos hon, wedi’i gynnwys yn nhîm Morgannwg i herio Swydd Durham yn Durham.

Yn enedigol o Perth yn Awstralia, mae e wedi creu argraff wrth chwarae i dîm y brifysgol ac ail dîm Morgannwg eleni.

Yn nhîm Morgannwg am y tro cyntaf eleni mae’r bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg, a hynny ar ôl gwella o anaf i gesail y forddwyd. Fe greodd e argraff wrth chwarae i’r ail dîm yn ddiweddar, gan sgorio 112 yn yr ail fatiad yn erbyn Swydd Gaint yng Nghastell-nedd.

Does dim lle i’r batiwr Will Bragg, ac mae Timm van der Gugten yn chwarae i’r Iseldiroedd ar hyn o bryd. Ond mae’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Marchant de Lange yn dychwelyd ar ôl colli’r gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon.

Mae Jack Murphy, y bowliwr cyflym, yn un o chwech o gyn-chwaraewyr Academi Morgannwg yn y garfan.

Ar ôl buddugoliaethau dros Swydd Durham yn San Helen a Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon, mae Morgannwg yn anelu am drydedd buddugoliaeth o’r bron.

‘Gwaith i’w wneud o hyd’

Mae llwyddiant diweddar Morgannwg wedi digwydd ar ôl i Michael Hogan ddisodli Jacques Rudolph yn gapten ar y tîm.

Ond mae e’n gyndyn o edrych yn rhy bell i’r dyfodol ar hyn o bryd.

“Dydyn ni ddim hanner ffordd drwy’r tymor eto, mae pedair sir arall eisoes wedi cael pedair buddugoliaeth, felly mae tipyn o waith i’w wneud o hyd.

“Ar ôl ein dwy fuddugoliaeth, mae’r gwaith yn parhau, a byddai’n well gyda fi aros ychydig o fisoedd i weld lle’r y’n ni arni.”

Y gwrthwynebwyr

Mae Swydd Durham heb y batiwr agoriadol Keaton Jennings, sydd wedi’i gynnwys yng ngharfan Lloegr A i herio De Affrica.

Ond maen nhw’n cael eu harwain gan Paul Collingwood, oedd wedi taro 127 yn erbyn Morgannwg yn y gêm rhwng y ddwy sir ar gae San Helen y tymor hwn.

Swydd Durham: S Cook, C Steel, G Clark, J Burnham, P Collingwood (capten), R Pringle, P Coughlin, S Poynter, M Potts, B McCarthy, C Rushworth

Morgannwg: J Rudolph, N Selman, C Ingram, A Donald, D Lloyd, A Salter, G Wagg, M de Lange, T Cullen, L Carey, M Hogan (capten)

Sgorfwrdd