Cefnogwyr tîm criced Pacistan yn dathlu yng Nghaerdydd (Llun: golwg360)
Roedd ymateb cymysg i’r llain yng Nghaerdydd ar ddiwedd gêm gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC yng Nghaerdydd heddiw.

Pacistan oedd yn fuddugol o wyth wiced ar ôl cwrso 212 yn ddigon hawdd ar ôl i fatwyr Lloegr gael trafferth yn gynharach yn y dydd.

Mae llu o rediadau wedi cael eu sgorio yn y gemau criced undydd yng Nghaerdydd yn ystod y gystadleuaeth hon. Sgoriodd Pacistan 237 wrth guro Sri Lanca (236); sgoriodd Bangladesh 268 i guro Seland Newydd (265) ac fe enillodd Lloegr eu gêm gyntaf yma drwy sgorio 310 yn erbyn Seland Newydd (223).

Hon oedd y bedwaredd gêm ar y cae yn ystod y gystadleuaeth, a’r trydydd tro i’r tîm a fatiodd yn ail ennill y gêm.

Y llain a gafodd ei defnyddio ar gyfer y gêm rhwng Pacistan a Sri Lanca a gafodd ei defnyddio eto, ac fe dynnodd capten Lloegr, Eoin Morgan sylw at hynny yn y gynhadledd i’r wasg heno.

“Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw fantais i ni o chwarae gartref. Roedden ni’n gwybod y bydden ni’n chwarae ar lain oedd wedi cael ei defnyddio o’r blaen ar ryw adeg yn ystod y gystadleuaeth hon.

“Ar ôl gwylio Pacistan yn erbyn Sri Lanca, doedden ni ddim yn meddwl ei bod hi’n rhy ddrwg. Ond yn amlwg, roedd naid sylweddol ar ôl dod o Edgbaston ac roedd gormod o laswellt i ni addasu’n hawdd iddi.”

Wrth egluro pam fod Pacistan wedi chwarae’n well ar y llain na Lloegr, ychwanegodd Eoin Morgan: “Yr esboniad yw eu bod nhw wedi chwarae arni ddeuddydd yn ôl.

“Mae pob cae yn cael tair llain i chwarae arnyn nhw.”

‘Cae lwcus’

Tra bydd Lloegr yn asesu beth aeth o’i le ar gae sydd i fod yn gae ‘gartref’ iddyn nhw, fe fydd Pacistan yn dathlu llwyddiant unwaith eto ar gae Caerdydd.

Roedden nhw’n fuddugol yma yn erbyn Lloegr fis Medi diwethaf, wrth i Imad Wasim, a gafodd ei eni yn Abertawe, daro’r rhediadau buddugol.

Ac maen nhw’n ddi-guro yn y gystadleuaeth hon yng Nghaerdydd eleni.

Ar ôl sgorio 76 fel rhan o bartneriaeth agoriadol hanesyddol gyda Fakhar Zaman o 118, dywedodd Azhar Ali: “Fe wyrodd y bêl dipyn a chafodd y troellwr ychydig o gymorth hefyd.

“Roedd y llain yn dda ar gyfer gêm undydd. Mae’n anodd gosod nod ar y math yna o lain.

“Doedd y llain ddim yn mynd i gynhyrchu sgôr uchel, efallai, ond rhaid canmol y bowlwyr am y ffordd y gwnaeth nhw fowlio. Nid bai’r batiwr yw e bob tro!”

Ymhlith y bowlwyr oedd ar eu gorau heddiw roedd Hasan Ali (3-35), Rumman Raees (2-44) a Junaid Khan (2-42), a ddywedodd wrth golwg360 fod Caerdydd yn “gae lwcus” iddyn nhw fel tîm.

Diolch i’r dorf

Roedd Azhar Ali hefyd yn awyddus i ganmol cefnogwyr Pacistan yn eu dwy gêm yng Nghaerdydd.

“Y tro diwethaf i ni chwarae yma yn y gêm undydd [yn erbyn Lloegr yn 2016], roedden ni wedi colli pedair gêm cyn hynny. Ond fe ddaeth cefnogwyr Pacistan i’n cefnogi ni yn y gêm honno hefyd.

“Roedd hi’n edrych fel pe baen ni’n chwarae gartref. Mae’n deimlad braf.”

Am resymau diogelwch, dydy Pacistan ddim yn cael chwarae yn eu gwlad eu hunain ar hyn o bryd ac felly, mae cefnogaeth ar draws y byd gymaint yn bwysicach iddyn nhw.

Ychwanegodd Azhar Ali: “Dydyn ni ddim yn chwarae gartref felly lle bynnag y cawn ni dorf yn ein cefnogi ni, ry’n ni wrth ein boddau.

“Diolch i’r dorf am ddod i’n cefnogi ni. Maen nhw wedi bod yn wych.”