Aneurin Donald (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Roedd batwyr Morgannwg “wedi gwneud llanast ohoni” ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Nottingham yng Nghaerdydd, yn ôl y batiwr ifanc Aneurin Donald.

Cafodd y Cymry eu bowlio allan am 187  yn eu batiad cyntaf, wrth ymateb i 448 yr ymwelwyr, sy’n golygu eu bod nhw’n wynebu colli o fatiad a mwy am yr ail waith y tymor hwn. Maen nhw’n waglaw yn y gystadleuaeth hon mor belled yn 2017.

Dywedodd Aneurin Donald fod y ffordd y collodd yntau ei wiced, wrth iddo gael ei ddal gan yr eilydd o faeswr Luke Wood ar y ffin wrth fynd am ergyd fawr ar 53, yn “gywilyddus”.

“Ro’n i’n teimlo’n eitha da allan yn fynna, ond roedd hi’n gywilyddus y ffordd es i allan a phryd es i allan.

“Fel tîm, fe wnaethon ni fowlio’n dda am ddwy sesiwn ddydd Gwener ond fe gollon ni ein ffordd rywfaint.

“Heddiw, roedden ni wedi gwneud llanast ohoni ac wedi methu gorffen ein gwaith.”

Ond fe ddywedodd fod y llain yn addas ar gyfer y batwyr, a bod potensial am gyfanswm uchel yn yr ail fatiad.

Swydd Nottingham

Wrth i Swydd Nottingham gyrraedd 448 i gyd allan, sgoriodd Chris Read (88) a Brett Hutton (61) hanner canred yr un, a hynny ar ôl i gyn-fyfyriwr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, Jake Libby (109) a Rikki Wessels (120) osod y seiliau gyda chanred yr un yn gynharach yn y batiad.

Dydy hi ddim yn glir eto, ar ôl gorffen yr ail ddiwrnod 261 o rediadau ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf, a fydd rhaid i Forgannwg ganlyn ymlaen.

Yr unig oleuni ym mherfformiad Morgannwg hyd yn hyn yw bowlio Timm van der Gugten, oedd wedi gorffen y batiad cyntaf gyda phum wiced am 101, a Lukas Carey o Bontarddulais, oedd wedi gorffen gyda ffigurau o 3-100.

Camgymeriadau batio

Ond mae batio tila Morgannwg yn parhau, gyda chyfres o gamgymeriadau yn y batiad cyntaf, gan gynnwys Will Bragg yn rhedeg ei hun allan yn gynnar yn y batiad.

Roedd cyfres o ergydion gwael yn golygu bod Morgannwg yn 125-6 erbyn i’r batwyr cydnabyddedig i gyd, ac eithrio Aneurin Donald, ddychwelyd i’r pafiliwn.

Ond fe darodd yntau ergyd wael i’r maeswr ar y ffin ac roedd yr ysgrifen ar y mur ar ôl hynny.

Sgorfwrdd