Fe fydd Morgannwg yn gobeithio am berfformiad gwell yn eu gêm oddi cartref olaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn erbyn Swydd Hampshire yn Southampton heddiw.

Ar ôl colli o 16 rhediad yn erbyn Swydd Middlesex yn Radlett nos Fercher, mae’r Cymry allan o’r gystadleuaeth i bob pwrpas, yn dilyn dwy fuddugoliaeth yn unig yn eu chwe gêm hyd yn hyn.

Ar ôl heddiw, dim ond un gêm sy’n weddill, a honno yn erbyn Swydd Gaint yn San Helen ddydd Sul.

Colin Ingram

Un o’r perfformwyr cyson yn y gystadleuaeth eleni, er gwaetha’r siom fel tîm, yw’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica, Colin Ingram, sydd ar frig rhestr y Chwaraewyr Mwyaf Gwerthfawr.

Doedd ei 53 gyda’r bat a ffigurau bowlio o bedair am 39 – ei ffigurau bowlio gorau erioed – ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Forgannwg nos Fercher.

Ac fe darodd e 142 yn erbyn Swydd Essex ddydd Sul – ei sgôr gorau erioed mewn gêm 50 pelawd – wrth i Forgannwg ennill gêm gyffrous o un rhediad.

Mae e wedi sgorio 325 o rediadau mewn chwe gêm hyd yma – dim ond 32 rhediad yn llai nag y sgoriodd e yn y gystadleuaeth gyfan y llynedd.

Ar ôl y gêm nos Fercher, dywedodd Colin Ingram: “Roedd cael perfformiad da fy hun yn wych, ond dw i’n mwynhau pan fo’r tîm yn ennill. Roedden ni mewn sefyllfa i wneud hynny ddydd Mercher.

“Fe chwaraeon ni’n dda mewn mannau, ond ry’n ni wedi bod yn darganfod ffyrdd o golli. Byddwn ni’n brifo ond fe wnawn ni ddysgu o hyn.”

Cytundeb undydd

O’r tymor nesaf ymlaen, bydd Colin Ingram yn canolbwyntio ar gemau undydd ar ôl llofnodi cytundeb dwy flynedd.

Roedd anaf i’w ben-glin yn golygu nad oedd wedi gallu chwarae llawer o gemau yn y Bencampwriaeth y llynedd, ac fe fydd y cytundeb newydd yn golygu ei fod e ar gael ar gyfer cystadlaethau ugain pelawd byd-eang.

Ychwanegodd Colin Ingram: “Dw i’n ddiolchgar am y trefniant yma gyda Morgannwg, er mwyn sicrhau y galla i chwarae cymaint o’r ddau fformat cryfaf gen i, sef y gemau 50 ac 20 pelawd.

“Mae’n anodd iawn chwarae drwy gydol y flwyddyn, felly mae’r trefniant hwn yn golygu y galla i dreulio mwy o amser gartref yn Ne Affrica.

“Hoffwn i gael blas ar yr hyn sydd ar gael ar y llwyfan byd-eang, er nad yw’r IPL [Indian Premier League] yn uchel ar fy agenda ar hyn o bryd.”

Swydd Hampshire v Morgannwg – y timau

Swydd Hampshire: T Alsop, R Rossouw, J Vince (capten), G Bailey, L Dawson, S Ervine, L McManus, I Holland, K Abbott, M Crane, R Topley

Morgannwg: D Lloyd, J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, K Carlson, A Salter, C Cooke, C Meschede, M De Lange, L Carey, M Hogan

Sgorfwrdd