Mae Kiran Carlson wedi cyfadde’ ei fod e “wedi synnu” o gael ei ddewis yn nhîm Morgannwg mor gynnar yn y tymor.

Mae’r batiwr ifanc o Gaerdydd wedi’i gynnwys yn y garfan unwaith eto ar gyfer ymweliad Swydd Essex â Chserdydd yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London heddiw.

Fe oedd un o’r ychydig berfformwyr da yn y gêm yn erbyn Gwlad yr Haf ddydd Gwener, wrth i Forgannwg golli’n drwm o 170 o rediadau yng Nghaerdydd.

Mae’r Cymry bellach wedi colli tair gêm o’r bron yn y gystadleuaeth ar ôl ennill eu gêm gyntaf oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Kiran Carlson oedd y prif sgoriwr ddydd Gwener gyda 63 oddi ar 59 o belenni.

Carfan Morgannwg

Yr un 14 o enwau sydd wedi’u cynnwys yng ngharfan Morgannwg unwaith eto, gyda thri Chymro ifanc – Lukas Carey, Owen Morgan ac Andrew Salter – wedi’u dewis unwaith eto ar ôl cael eu hepgor ddydd Gwener.

Dywedodd Kiran Carlson: “Ry’n ni wedi paratoi’n drylwyr a dy’n ni ddim yn mynd i newid llawer ar ein proses.

“Yr hyn sy’n bwysicach yw cael y pethau bach yn iawn ac unwaith bydd hynny’n digwydd ac ry’n ni’n ennill yn dda, gallwn ni gael rhediad.

“Ro’n i wedi synnu ychydig o gael dechrau gemau Rhestr A, ond mae wedi bod yn dda i ddatblygu fy sgiliau a sgorio rhediadau.”

Does dim lle o hyd i’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg, sydd wedi anafu, ond mae Ruaidhri Smith yn agos at ddychwelyd.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, W Bragg, C Ingram, K Carlson, A Donald, C Cooke, C Meschede, O Morgan, A Salter, L Carey, T van der Gugten, M De Lange, M Hogan

Tîm: J Rudolph (capten), D Lloyd, W Bragg, C Ingram, K Carlson, C Cooke, A Donald, C Meschede, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan

Carfan Swydd Essex: R ten Doeschate (capten), R Bopara, N Browne, V Chopra, A Cook, S Harmer, D Lawrence, J Porter, C Taylor, N Wagner, P Walter, T Westley, A Wheater, Ashar Zaidi

Tîm: A Cook, N Browne, T Westley, V Chopra, R Bopara, R ten Doeschate (capten), Ashar Zaidi, A Wheater, S Harmer, N Wagner, J Porter

Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio