Mae Morgannwg yn barod i “danio” ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road, yn ôl y batiwr Colin Ingram.
Y Saeson sy’n batio ar ddechrau’r diwrnod, ac maen nhw eisoes wedi cyrraedd 200-3, sy’n golygu bod ganddyn nhw fantais ail fatiad o 194 gyda saith wiced yn weddill.
Colin Ingram, y batiwr o Dde Affrica, oedd yr ail fatiwr o Forgannwg i daro canred wrth iddo gyrraedd 137 cyn colli ei wiced oddi ar belen olaf sesiwn y bore. Roedd yr Awstraliad Nick Selman eisoes wedi sgorio 117.
Roedd perfformiad y batwyr dipyn gwell nag yr oedden nhw yn y ddwy gêm gyntaf, ac fe fydd y partneriaethau cynnar hynny yn y batiad rhwng y pedwar uchaf yn allweddol os yw Morgannwg am ennill eu gêm gynta’r tymor hwn.
Ond cyn i’r batwyr gael cyfle i ennill y gêm, fe fydd rhaid i’r bowlwyr gipio’r saith wiced olaf yn eithaf cynnar y bore ma i roi digon o amser i’r batwyr gwrso’r nod.
‘Ychydig yn siomedig’
Dywedodd Colin Ingram: “Roedd hi’n braf cael treulio ychydig o amser yn y canol. Wnes i ddysgu tipyn yn y tymor cyntaf chwaraeaeais i yma, a dw i’n trio defnyddio hynny ar hyn o bryd, felly roedd hi’n braf cael codi’r bat.
“Ro’n i ychydig yn siomedig gyda fi fy hun wrth i fi fynd allan cyn cinio, ond fe wnaethon ni adeiladu partneriaethau da, chwaraeodd Nick Selman yn hyfryd, ynghyd â Jacques Rudolph ar y dechrau i gael cyfanswm da.
“Gyda’r haul yn gwenu, roedd y bowlwyr yn rhedeg i mewn yn galed, roedd y llain yn eitha fflat yn y prynhawn ond byddai wedi bod yn braf cael un neu ddau [rediad] yn rhagor.
“Gobeithio gallwn ni gael hatric neu rywbeth yn yr ail belawd! Ond fe gawn ni orffwys cyn hynny a thanio wrth i ni ddod allan.”