Mae troellwr Morgannwg, Andrew Salter wedi canmol un o Gymry ifainc y sir, Lukas Carey ar ôl ei berfformiad ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerlŷr.

Cipiodd y bowliwr cyflym o Bontarddulais ddwy wiced am 66 wrth i’r tîm cartref orffen y diwrnod cyntaf ar 275-5.

Dwy wiced gynta’r batiad gipiodd Lukas Carey i osod y sylfeini i Forgannwg ar lain sydd fel arfer yn ffafrio’r batwyr.

Dywedodd Andrew Salter: “Am ran fwya’r dydd, fe wnaethon ni fowlio’n dda iawn fel grŵp. Dw i’n meddwl bod Lukas Carey wedi bowlio’n anhygoel tua’r dechrau, dyna’r gorau dw i wedi ei weld e’n bowlio.

“Wnaethon nhw ddim dechrau tynnu i ffwrdd oddi wrthon ni tan y diwedd.

“Dw i’n teimlo ein bod ni wedi cadw at ein cynllun yn eitha da ac roedd yn drueni eu bod nhw wedi adeiladu momentwm tua’r diwedd.

“Mae’r llain yn dda ar gyfer criced, a gobeithio y gallwn ni fatio’n dda arni.”

Sais ifanc

Os mai Cymro ifanc a ddaliodd y sylw gyda’r bêl, yna’r Sais ifanc Harry Dearden oedd yn haeddu’r clod am y batio.

Ac yntau’n 19 oed, sgoriodd e 87 wrth iddo fynd am ei ganred cyntaf erioed a hynny ar ôl i Forgannwg wahodd Swydd Gaerlŷr i fatio.

Adeiladodd e bartneriaeth agoriadol o 85 gyda Paul Horton, cyn i Lukas Carey dorri’r momentwm gyda’i wiced gyntaf ar ôl cinio wrth fowlio Horton. Daeth ei wiced nesaf oddi ar y belen nesaf, wrth i Neil Dexter ddarganfod menyg y wicedwr Chris Cooke.

Roedd Lukas Carey eisoes wedi cael cyfle cynnar i gipio wiced Harry Dearden cyn hynny, ond methodd y capten Jacques Rudolph â dal ei afael ar y bêl. Roedd cyfle eisoes wedi dod cyn hynny i Andrew Salter redeg Dearden allan.

Roedd y Saeson yn 86-3 wrth i Ned Eckersley, y capten dros dro, gael ei fowlio gan Michael Hogan.

Daeth hanner canred Harry Dearden oddi ar 154 o belenni, gan gynnwys saith ergyd i’r ffin am bedwar.

Roedd Swydd Gaerlŷr yn 176-4 pan gollodd Harry Dearden ei wiced, wedi’i fowlio gan Andrew Salter, a dyna ddiwedd ar bartneriaeth o 90 gyda Mark Pettini.

Cafodd Lukas Carey gyfle am ddaliad yn hwyr yn y dydd oddi ar Andrew Salter, ond fe ollyngodd y bêl. Ond dair pelen yn ddiweddarach, cipiodd y troellwr y wiced, wrth fowlio Cameron Delport yn ei gêm gyntaf.

Adeiladodd Mark Pettini a Lewis Hill bartneriaeth o 73 cyn i’r golau gwael orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae.

Sgorfwrdd