Prif Weithredwr Clwb Criced Swydd Gaerlŷr, Wasim Khan (Llun: PA)
Mae Clwb Criced Swydd Gaerlŷr yn gwadu iddyn nhw gyflogi dyn oedd yn aros i sefyll ei brawf ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod ar ei wraig.

Mae’r clwb wedi cysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn dweud nad oedden nhw wedi cynnig swydd i Mustafa Bashir, 34, oedd wedi derbyn dedfryd ohiriedig yn Llys y Goron Manceinion yr wythnos diwethaf.

Roedd e wedi’i gyhuddo o ymosod ar ei wraig, Fakhara Karim â bat criced.

Yn ystod yr achos, clywodd y llys y byddai dedfryd o garchar yn golygu na fyddai’r cricedwr yn derbyn cytundeb gyda’r sir.

Ond mae’r clwb yn gwadu eu bod nhw wedi cynnig cytundeb iddo yn y lle cyntaf.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb fod yr honiadau’n “gwbl ffals”.

Mae prif weithredwr y clwb, Wasim Khan wedi cyflwyno tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac fe ddywedodd fod y clwb “ynghlwm wrth ymdrechion yn erbyn trais yn y cartref”.