Kiran Carlson (ar y dde) yn derbyn cap gan y wicedwr Mark Wallace
Kiran Carlson bellach yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred dosbarth cyntaf i Forgannwg, yn dilyn ei fatiad o 101 heb fod allan ar ddiwrnod cyntaf gêm y sir yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford.

Mae Carlson, gynt o Ysgol Uwchradd Whitchurch yng Nghaerdydd – yr un ysgol â Gareth Bale, Sam Warburton a Tom Maynard – wedi torri record Mike Llewellyn, a darodd 112 heb fod allan yn erbyn Prifysgol Caergrawnt yn 1972 pan oedd e’n 18 a 213 o ddiwrnodau oed.

Mae Carlson yn 18 a 119 o ddiwrnodau oed, a hon yw ei drydedd gêm Bencampwriaeth i Forgannwg.

Ar un adeg, roedd Morgannwg yn 34-4 pan ddaeth Carlson i’r llain, ac fe gyrhaeddodd ei ganred oddi ar 192 o belenni wrth iddo daro 15 pedwar.

Adeiladodd Carlson a Chymro ifanc arall, Owen Morgan (51 heb fod allan) bartneriaeth o 128 am yr wythfed wiced cyn i’r diwrnod ddod i ben mewn golau gwael.

Creodd Carlson argraff yn ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Northampton ddechrau’r mis wrth iddo gipio pum wiced am 28 wrth fowlio sbin.

Tarodd Morgan ei hanner canred oddi ar 130 o belenni, gan daro naw pedwar.

‘Diwrnod gwych’

Dywedodd Carlson: “Mae’n ddiwrnod gwych. Mae wedi bod yn bartneriaeth wych a gobeithio y gallwn ni barhau fory.

“Pan y’ch chi’n dechrau chwarae criced pan y’ch chi’n saith neu wyth, ry’ch chi’n mynd i weld gemau Morgannwg yn y T20 a bob amser yn meddwl y gallech chi fod yno ymhen ychydig flynyddoedd.

“Dw i’n fwy o fatiwr [nag o fowliwr] ac mae’n hyfryd cael fy nghanred cyntaf y tu ôl i fi. Mae’n ddechrau gwych i ‘ngyrfa a gobeithio y galla i osod seiliau’r gêm i ni.”