Mae Morgannwg wedi cael eu bowlio allan am 95 wrth iddyn nhw golli o 251 o rediadau yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen yn Abertawe.

Ar ddiwrnod olaf Gŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru, sy’n cael ei threfnu gan Orielwyr San Helen, roedd gan Forgannwg nod o 347 am y fuddugoliaeth oddi ar 90 o belawdau.

Ond fe gollon nhw eu pedair wiced gyntaf am 12 rhediad, a wnaethon nhw ddim llwyddo i adfer y sefyllfa wedi hynny wrth i Ben Sanderson gipio saith wiced yn yr ail fatiad am 22 rhediad – ei ffigurau bowlio gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf. Fe gipiodd y bedair wiced olaf heb ildio’r un rhediad.

Rhaid cwestiynu tactegau’r capten Jacques Rudolph dros y pedwar diwrnod, wrth iddo fod yn gyndyn o or-ddefnyddio’r troellwyr ar lain sydd yn draddodiadol yn rhoi tipyn o gymorth i’r bowlwyr araf.

Ond unwaith eto, y batwyr sydd wedi achosi’r siom i Forgannwg, sy’n gadael Abertawe’n waglaw ar ôl gêm undydd a gêm Bencampwriaeth.

Serch hynny, roedd rhai arwyddion da i Forgannwg, wrth i’r bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey orffen y gêm gyda saith wiced am 151.

Yn ogystal, fe gipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten bum wiced yn yr ail fatiad am 61 – ei ffigurau dosbarth cyntaf gorau erioed, yr ail waith iddo gyflawni’r gamp y tymor hwn.

Manylion

Ar ôl penderfynu batio’n gyntaf, sgoriodd Swydd Northampton 321 yn eu batiad cyntaf, wrth i dri o’u batwyr daro mwy na hanner cant – y capten Rory Kleinveldt (91), Laurie Evans (74) a Saif Zaib (65).

Cipiodd van der Gugten, Carey a David Lloyd dair wiced yr un.

Wrth ymateb, sgoriodd Morgannwg 236 yn eu batiad cyntaf, wrth i Nick Selman (122 heb fod allan) daro’i ganred cyntaf i Forgannwg, gan gario’i fat – y batiwr cyntaf i wneud hynny i Forgannwg ers Matthew Elliott yn 2004.

Laurie Evans oedd y prif sgoriwr i’r ymwelwyr unwaith eto yn yr ail fatiad, wrth iddo sgorio 73, wrth i’r tîm sgorio 321 i gyd allan, gan osod nod o 247 i Forgannwg.

Ond roedd yr ornest ar ben i bob pwrpas o fewn ychydig iawn o belawdau.

Mae golygon Morgannwg yn troi at y gêm ugain pelawd nesaf, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Efrog i’r Swalec SSE nos Iau yn y gobaith o sicrhau eu lle yn Niwrnod y Ffeinals yn Edgbaston ar Awst 20.

Colli nos Iau, ac fe fyddai tymor Morgannwg, i bob pwrpas yn dod i ben, ar ôl mynd allan o gwpan 50 pelawd Royal London ac ymgyrch mor siomedig yn y Bencampwriaeth.