Un o brif sêr Clwb Criced Morgannwg, Jim Pressdee (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris wedi talu teyrnged i gyn-chwaraewr y clwb, Jim Pressdee, sydd wedi marw’n 83 oed.

Roedd Morris yn un o’r chwaraewyr ifainc wnaeth elwa o ddoniau Pressdee fel hyfforddwr yn ystod y 1980au.

Mae Pressdee yn cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr amryddawn gorau yn hanes y clwb ar ôl ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf yn 16 oed yn 1950 – y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli’r clwb ers yr Ail Ryfel Byd.

Gyrfa

Yn fatiwr llaw dde ac yn droellwr llaw chwith, fe ffurfiodd bartneriaethau effeithiol gyda Don Shepherd a Jim McConnon.

Sgoriodd e 13,411 o rediadau dosbarth cyntaf a chipiodd 405 o wicedi yn ystod ei yrfa.

Ei gyfanswm gorau erioed gyda’r bat oedd 150 heb fod allan yn erbyn Prifysgol Caergrawnt ar Barc Ynys Angharad ym Mhontypridd yn 1965.

Sgoriodd ganred dosbarth cyntaf am y tro cyntaf yn erbyn India ym Mharc yr Arfau yn 1959, ac fe aeth ymlaen i ailadrodd y gamp 11 o weithiau ar ôl hynny.

Yn 1961, Pressdee oedd y batiwr cyntaf erioed i sgorio canred yn erbyn Awstralia ac fe sgoriodd 1,892 o rediadau’r tymor hwnnw. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe sgoriodd 1,911 o rediadau.

Ar ôl rhai blynyddoedd llwm gyda’r bêl rhwng 1959 a 1962, fe gipiodd 104 o wicedi yn 1963 – y chweched chwaraewr yn hanes y clwb i gipio dros 100 o wicedi mewn tymor, ac ef oedd y chwaraewr diwethaf i wneud hynny i Forgannwg.

Roedd yn aelod gwerthfawr o’r tîm a drechodd Awstralia yn San Helen yn 1964, dafliad carreg o’i gartref yn y Mwmbwls.

Yn 1965 y sicrhaodd ei ffigurau bowlio gorau erioed – 9 am 43 yn erbyn Swydd Efrog yn San Helen.

Hyfforddwr

Yn dilyn ei ymddeoliad y flwyddyn honno, fe symudodd i Dde Affrica, lle’r oedd yn hyfforddwr tîm North-East Transvaal tan 1969-70.

Dychwelodd i’r Mwmbwls yn ddiweddarach a daeth yn hyfforddwr – ac yn gapten! – ar dîm ieuenctid Morgannwg, lle’r oedd yn gyfrifol am feithrin doniau’r genhedlaeth o Gymry oedd yn rhan o dîm Morgannwg pan enillon nhw’r Gynghrair Undydd yn 1993 a Phencampwriaeth y Siroedd yn 1997.

Y tu allan i’r byd criced, chwaraeodd bêl-droed i Abertawe ac Ysgolion Cymru.

‘Gyrfa ragorol’

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod Pressdee wedi cael “gyrfa ragorol”.

“Fel nifer o chwaraewyr amryddawn o’r radd flaenaf, roedd e’n haeddu ei le yn nhîm y sir Gymreig naill ai fel batiwr neu fel bowliwr. Roedd Jim yn gystadleuwr gwych ac roedd ganddo fe feddwl craff fel cricedwr.

“Fel chwaraewr fy hun yn y 1980au, fe welais drosof fy hun y sgiliau oedd gan Jim wrth feithrin doniau chwaraewyr ifainc wrth i nifer o’r chwaraewyr addawol o’r tîm ieuenctid wthio’u ffordd i mewn i dîm cyntaf Morgannwg.”