Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, wrth i Swydd Gaerlŷr eu trechu o 10 wiced yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Roedd gan yr ymwelwyr nod o 113 am y fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf, ac roedd angen llai nag awr arnyn nhw wedi’r egwyl am ginio i sgorio’r rhediadau.

Morgannwg alwodd yn gywir ar y diwrnod gyntaf ar ôl i Gaerlŷr benderfynu cynnal y dafl yn sgil y rheolau newydd.

Ymhlith prif sgorwyr Morgannwg roedd Graham Wagg (64), David Lloyd (59), Chris Cooke (56) a Will Bragg (50), ond seren y batiad oedd bowliwr cyflym yr ymwelwyr, yr Awstraliad Clint McKay a gipiodd chwe wiced am 73.

Wrth ymateb, sgoriodd yr ymwelwyr 427 yn eu batiad cyntaf, gyda’r wicedwr Niall O’Brien yn taro 93, ac roedd hanner canred yr un i Paul Horton (67), McKay (65) a Wayne White (58).

Ail fatiad digon siomedig gafodd Morgannwg wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 191 – dim ond Aneurin Donald (57) lwyddodd i daro hanner canred wrth i Ben Raine gipio pedair wiced am 57 i adael nod o 113 i’r ymwelwyr ar y diwrnod olaf.

Ychydig dros un sesiwn gymerodd hi i’r ymwelwyr gyrraedd y nod, wrth i Horton (64*) ac Angus Robson (49*) sicrhau’r fuddugoliaeth o ddeg wiced ar ddechrau sesiwn y prynhawn.