Tom Maynard, fu farw yn 2012
Fe fydd cwrs ar gyfer cricedwyr ifainc ddydd Mawrth sy’n cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Tom Maynard yn clywed gan ddau gricedwr sy’n ceisio addasu i fywyd y tu hwnt i’r ffin yn eu hymddeoliad.

Bu farw Maynard, cyn-fatiwr Morgannwg a Swydd Surrey, yn 23 oed yn 2012.

Hwn yw’r chweched Rookie Camp sydd wedi’i drefnu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, a’r pedwerydd i gael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Tom Maynard.

Rhannu profiadau

Ymhlith y siaradwyr gwadd yn Edgbaston fydd y cyn-chwaraewr amryddawn Chris Lewis, cyn-fowliwr cyflym Swydd Essex, Mervyn Westfield a chyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Simon Jones.

Bydd Jones, oedd yn aelod o garfan Lloegr a gipiodd y Lludw yn 2005, yn cynnal sesiwn holi ac ateb, tra bydd Lewis yn trafod y broses o baratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r byd criced, gan dynnu ar ei brofiadau yntau o gael ei garcharu am smyglo cocên ar ffurf hylif o’r Caribî i Loegr.

Cafodd Lewis ei ryddhau o’r carchar fis Mehefin diwethaf ac ers hynny, fe fu’n cydweithio â Chymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol (PCA) i godi ymwybyddiaeth o wneud y penderfyniadau cywir yn dilyn ymddeoliad.

Bydd Mervyn Westfield yn trafod rhaglen wrth-dwyll y PCA, wedi iddo yntau dreulio cyfnod yn y carchar am drefnu elfennau o gemau criced ar hap.

Fe fu Westfield yn cefnogi’r Rookie Camp ers sawl blwyddyn, ac yn cynnal gweithdai gwrth-dwyll yn Ne Affrica fis Tachwedd diwethaf.

Fe fydd y Rookie Camp hefyd yn cynnwys sesiynau ar wefannau cymdeithasol, sut i drafod cytundebau criced a bod yn gaeth i gamblo.

Ar eu tudalen Twitter, dywedodd Ymddiriedolaeth Tom Maynard eu bod nhw “wrth eu bodd” o gael noddi’r digwyddiad sy’n “rhan allweddol o’n cefnogaeth i bobol ifanc ym myd y campau”.