Terfynu gornest Morgannwg oherwydd llain beryglus

Diweddarwyd am  


Mae gornest Morgannwg yn erbyn Swydd Hampshire yng nghwpan 50 pelawd Royal London wedi dod i ben yn gynnar oherwydd bod y llain yn rhy beryglus.

Dim ond 6.4 o belawdau a gafodd eu bowlio gan Forgannwg yn ail fatiad yr ornest cyn i’r dyfarnwyr Neil Mallender a Paul Baldwin alw’r capteniaid Jacques Rudolph a James Vince ynghyd.

Daeth swyddog cyswllt yr ECB, Tony Pigott i’r cae i drafod y sefyllfa.

Fe ddeilliodd y drafodaeth o fownsar a gafodd ei fowlio gan fowliwr cyflym Morgannwg, Michael Hogan at Jimmy Adams yn y seithfed pelawd.

Dywedodd Adams wrth Sky Sports: “Doedd dim byd mawr o’i le. Roedd un belen yn eithafol a dyna pam roedd trafodaeth.

Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Do’n i ddim yn mynd i dynnu Michael Hogan allan o’r ymosod. Roedd rhaid i ni geisio cipio wicedi o’r dechrau.”

Yn ddiweddarach ar ei dudalen Twitter, dywedodd Rudolph: “Ymddiheriadau diffuant i gefnogwyr @GlamCricket fod yr ornest wedi dod i ben yn y modd yna. Gwnaeth y dyfarnwyr y penderfyniad cywir – diogelwch chwaraewyr ddaw gyntaf.”

Ychwanegodd capten Swydd Hampshire, James Vince: “Pe baen ni wedi gallu, fe fydden ni wedi aros allan yno, ond penderfyniad y dyfarnwyr oedd e.

“Roedd ‘Carbs’ [y batiwr Michael Carberry] yn dweud ei fod e’n teimlo bod y llain yn beryglus.”

Yn ddiweddarach ar ei dudalen Twitter, roedd Vince yn mynnu y dylai Swydd Hampshire fod wedi cael y pwyntiau am y fuddugoliaeth gan eu bod nhw ar y blaen trwy ddull Duckworth-Lewis pan ddaeth yr ornest i ben.

“Roedd y llain wedi dod yn rhy beryglus, ond dim rheswm pam na ddylen ni gael 2 bwynt o’r ornest, roedd Duckworth Lewis bryd hynny’n 9-0.”

Dywedodd swyddog cyswllt yr ECB, Tony Piggott wrth Sky Sports: “Mae’r dau ddyfarnwr wedi penderfynu nad oes modd chwarae ar y llain, ac wedi dod â’r gem i ben.

“Mae’r llain yn sych iawn, does dim modd darogan sut y mae’r bel yn llamu ac mae’r penderfynu bod y llain yn un beryglus.”

Dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Ry’n ni’n hynod siomedig. Ond roedd y dyfarnwyr yn gywir yn eu penderfyniad.

“Fe fydd ymchwiliad llawn i gyflwr y llain, ac fe fyddwn ni’n ad-dalu’r cefnogwyr yn llawn.”

Mae Hugh Morris wedi wfftio adroddiadau bod llain wahanol wedi cael ei dewis ar y funud olaf oherwydd bod yr ornest yn cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports.

Cafodd yr un llain ei defnyddio ar gyfer yr ornest yn erbyn Swydd Essex nos Wener diwethaf.

Yn gynharach yn yr ornest, roedd Morgannwg wedi sgorio 182-9.

Nid dyma’r tro cyntaf i lain Morgannwg gael ei beirniadu.

Fe ddechreuodd Morgannwg y gystadleuaeth ar -2 o bwyntiau oherwydd cwyn y tymor diwethaf yn yr ornest yn erbyn Swydd Durham, ac roedd nifer yn feirniadol o safon y llain yn ystod prawf cyntaf Cyfres y Lludw fis diwethaf.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd