Wrth i ornest griced y Lludw ddirwyn i ben yng Nghaerdydd ddydd Sul, fe fydd gornest ar raddfa lai yn cael ei chynnal yn Abertawe i nodi partneriaeth griced newydd.

Bwriad y bartneriaeth rhwng Chwaraeon Colegau Cymru a Chriced Cymru yw datblygu criced mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.

I nodi dechrau’r bartneriaeth, bydd tîm dethol o Golegau Cymru yn herio tîm Ysgolion Uwchradd New South Wales yng Ngorseinon.

Bydd y bartneriaeth newydd yn golygu cysylltiadau agosach â chlybiau lleol, cystadlaethau dan do newydd a chyfleoedd i hyfforddwyr criced newydd ddysgu’r grefft.

Mae’r bartneriaeth hefyd yn ymgais i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y chwaraewyr ifanc sy’n symud ymlaen i gynrychioli clybiau oedolion yng Nghymru.

Gostyngiad

Dywedodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: “Fel ystod o chwaraeon, mae criced yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn y niferoedd sy’n parhau i chwarae ar ôl 15 oed.

“Mae Criced Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Colegau Cymru i gryfhau rhaglenni criced y colegau, i gynnig mwy o gyfleoedd cystadleuol, i ddatblygu cysylltiadau rhwng colegau a chlybiau, a helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr.

“Rydym yn gweld y bartneriaeth newydd yn cynnig manteision mawr i golegau a chlybiau fel ei gilydd.”

Eisoes y tymor hwn, mae Colegau Cymru wedi herio Cymru dan 17 a’r MCC ac ymhlith eu chwaraewyr mae chwaraewr ifanc Morgannwg, Aneurin Donald, sy’n gapten ar dîm Lloegr dan 19.

Cyfleoedd newydd

Dywedodd Cydlynydd Chwaraeon Colegau Cymru, Rob Baynham: “Bydd y bartneriaeth newydd gyda Criced Cymru yn rhoi cyfleoedd newydd i fyfyrwyr coleg chwarae ar lefel mwy elît yn ogystal ag ar lefel hamdden.

“Bydd y gynghrair dan do newydd, addysgu hyfforddwyr, cysylltiadau clwb a’r gystadleuaeth T20 i gyd yn rhoi hwb gwirioneddol i griced yn y colegau.

“Eleni gwelwyd nifer o ddatblygiadau cyffrous i griced yn y colegau, ac mae’r gêm yn erbyn tîm cryf o New South Wales, sy’n cyd-daro â’r Prawf y Lludw yng Nghaerdydd, yw’r eisin ar y gacen.

“Mae Chwaraeon Colegau Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth Criced Cymru a Chlwb Criced Gorseinon i alluogi’r y gêm hon i gael ei chwarae.”

Manylion yr ornest

Colegau Cymru v New South Wales (50 pelawd)

Clwb Criced Gorseinon

Dydd Sul 12 Gorffennaf am 11:00