Bydd gan benderfyniad S4C i beidio darlledu gemau cartref Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 effaith bellgyrhaeddol, yn ôl gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers…

Drwy gydol yr wythnos hon, fe fu cyffro mawr ynghylch gêm ugain pelawd gynta Morgannwg yn Stadiwm Swalec y tymor hwn. Ychwanegwyd at y cyffro hwn ddydd Mawrth gyda’r cyhoeddiad fod seren undydd India’r Gorllewin, Darren Sammy yn ymuno â’r garfan am weddill y gystadleuaeth.

Bydd Sky Sports ar ben eu digon yn dilyn y newyddion, wedi iddyn nhw gyhoeddi y byddan nhw’n darlledu un o ornestau Morgannwg (yn erbyn Swydd Hampshire ar Fehefin 25) o Stadiwm Swalec. A benthyg cymhariaeth Prif Weithredwr S4C, Ian Jones yn ei araith ar faes Eisteddfod yr Urdd a gafodd sylw ar Golwg360 yr wythnos hon, bydd Sinderela Cymru’n aros adref tra bydd Sky Sports yn cael mynd i’r ddawns.

Mae’n debygol erbyn hyn y bydd y stadiwm dan ei sang i weld y chwaraewr amryddawn Darren Sammy yn colbio’r lledr gyda’i ddarn pwerus o helygen. Bydd llygaid gwylwyr Sky Sports ar Forgannwg ar ddau achlysur arall pan fyddan nhw’n teithio i Fryste ar Fehefin 8 i herio Swydd Gaerloyw, ac yna i Hove i wynebu Swydd Sussex ar Orffennaf 8. Ar y llaw arall, mae penderfyniad S4C i beidio darlledu’r un o ornestau cartref Morgannwg yn ddim llai na cham gwag – o safbwynt y byd criced yng Nghymru ac i’r Gymraeg. Fydd incwm Morgannwg o’r gât ddim yn dioddef, fodd bynnag!

Ar yr adeg pan gyhoeddodd S4C yn 2008  y bydden nhw’n darlledu gornestau T20 Morgannwg am bedair blynedd o 2010 ymlaen (gan obeithio ymestyn y cytundeb yn ddibynnol ar lwyddiant), roedd yn gam mawr ymlaen i’r gamp yng Nghymru ac yn gyfle i gyflwyno pau newydd i’r Gymraeg. Fe gydnabu Golygydd Cynnwys S4C, Geraint Rowlands yn 2008 y byddai “S4C yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad criced ar bob lefel yng Nghymru”. Ar ddiwedd y tymor cyntaf, roedd llwyddiant y darllediadau’n glir i bawb, gyda mwy na chwarter miliwn o wylwyr wedi eu denu i’r sgrin yn ystod y gystadleuaeth.

Ond eto, bum mlynedd yn ddiweddarach a thair blynedd i mewn i’r cytundeb, fe wnaeth S4C dro pedol mawr gan ddweud bod yna resymau “ariannol a golygyddol” am y penderfyniad i ddod â’r cytundeb i ben yn gynnar. Fe ddywedodd e wrtha i ar y pryd fod “y tywydd wedi effeithio ar raglenni’n sylweddol”. Cawn weld nos Wener a fydd yr haul yn gwenu’n slei bach i gyfeiriad y siwtiau sy’n gwneud y fath benderfyniadau rhyfedd!

Ond gwir drueni diffyg darpariaeth S4C y tymor hwn yw bod cyfle wedi’i golli i ddatblygu ar y gwaith a gafodd ei wneud yn sgil y darllediadau i ehangu’r derminoleg sydd ar gael i ddisgrifio’r gamp yn Gymraeg. Roedd y cyfryngau eisoes wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o gysoni termau criced ar gyfer ffurf hir y gamp, gyda’r amryw eiriaduron ac adnoddau ar-lein yn cynnig termau ar gof a chadw. Dyma gyfle euraid i Eic Davies a Howard Lloyd yr oes newydd i chwarae eu rhan nhw wrth ddarlledu fersiwn gyfoes a sionc o’r gamp.

Gyda gwedd hollol wahanol ar griced yn ymddangos ar y sgrîn Gymraeg am y tro cyntaf, roedd iaith griced yn cael ei bathu o’r newydd o flaen ein llygaid, ac roedd y gynulleidfa’n rhan allweddol yn y broses honno hefyd. Yr adnoddau mwyaf cyffredin a gafodd eu defnyddio i awgrymu termau oedd gwefan ryngweithiol a chyfrif penodol ar Twitter. Achubodd Geraint Rowlands ar y cyfle i dynnu sylw at lwyddiant y broses fyw o fathu termau:

Mae’r ystod amrywiol o westeion a’r defnydd o dermau criced yn Gymraeg wedi denu cryn ddiddordeb. Mae ymateb arbennig wedi bod i’r gwaith o fathu termau newydd ar gyfer y gemau ugain pelawd, gyda thermau fel ‘colbad cryman’ am ‘slog sweep’ ac ‘Eryri’ am ‘Manhattan’ yn taro deuddeg.

Yr hyn fu’n bwysig ers dechrau darlledu’r T20 yw rhan y gynulleidfa yn y broses, ac roedd y “televisual presentation” (Haynes a Boyle) yn hollbwysig. Mae modd dadlau bod y T20 yn gyfle i’r gamp ddatblygu’n annibynnol yn Gymraeg, ochr yn ochr â’r Saesneg. Mae’n haws o lawer cyflwyno’r dull newydd hwn o griced fel cystadleuaeth yn Gymraeg am y ffaith nad oes traddodiad Seisnig hirdymor yn perthyn iddi – traddodiad sy’n cael ei beirniadu’n aml yng Nghymru’r dyddiau yma.

Mae sylwebaeth Saesneg yn gysyniad yr un mor newydd ag ydyw sylwebaeth Gymraeg o safbwynt y T20. Yn hynny o beth, mae modd ei darlunio fel camp gynhenid Gymreig a Chymraeg a’i chysylltu â rhai o’r traddodiadau ac arferion Cymreig. Dyma enghraifft o’r hyn y mae Michael Cronin yn ei alw’n ‘interculturalism’.

Mae peuoedd, fel chwaraeon, fel arfer yn dibynnu ar un iaith mewn gwlad ddwyieithog, sef y lingua franca. Ond roedd darpariaeth griced S4C yn profi bod modd i bau dreiddio o un iaith i’r llall. O ran y cyfryngau Cymreig a Chymraeg, roedd criced ar gael yn y Gymraeg yn unig ar deledu rhad ac am ddim. Dim ond ar Sky Sports mae criced fyw o Loegr ar gael yn Saesneg. Mae’r ffordd yr oedd S4C wedi mynd ati i Gymreigeiddio criced yn golygu na fu’n rhaid cyfieithu termau’n uniongyrchol. Roedd y termau dan sylw’n newydd yn Saesneg a Chymraeg felly doedd dim traddodiad yn perthyn iddyn nhw. Dyma le mae pwysigrwydd diwylliant yn cael ei amlygu. Cyfleu ystyr yn y cyd-destun hwn oedd y nod, nid cyfieithu’n uniongyrchol.

Fel dywedais i eisoes, bu’r broses o dynnu’r gynulleidfa i mewn i’r drafodaeth yn un o elfennau pwysicaf darllediadau S4C. Un enghraifft amlwg o hyn oedd y drafodaeth a fu trwy gyfrwng Twitter i ddod o hyd i air Cymraeg am ‘powerplay’ – y cyfnod o chwe phelawd ar ddechrau’r batiad lle mae rhwydd hynt i’r batwyr daro’r belen i’r ffin oherwydd y cyfyngiadau sydd ar y maeswyr. Fel gellir disgwyl, term cyffredin a gafodd ei awgrymu oedd y cyfieithiad slafaidd ‘pelawdau pŵer’ –  a chafodd nifer o dermau eraill fel ‘pweroed’, ‘grym-gyfnod’, ‘cyfnod cyffro’, ‘cyfle clatsio’, ‘cyfnod nerthu’ a ‘pheli pwno’ eu gwrthod yn ystod y drafodaeth. Cafodd y term ‘cyfnod clatsio’ ei fathu, ei ddefnyddio a’i dderbyn yn y pen draw. Dwi’n bersonol yn ffafrio’r term Cymraeg ‘cyfnod clatsio’ gan ei fod yn cyfleu’r ystyr lawer iawn mwy manwl nag ydyw ‘powerplay’. Term arall a gafodd ei fathu oedd ‘colbad cryman’ ar gyfer ‘slog sweep’. Ffactorau diwylliannol sy’n gyfrifol unwaith eto am fathu’r term hwn. Mae dylanwad amlwg amaethyddiaeth ar y term, tra bod ‘colbio’ yn hen derm am daro’n galed. Mae’r term yn disgrifio’r symudiad a’r grym sy’n cael ei ddefnyddio. Wrth gymeradwyo’r term, fe ddywedodd un o’r sylwebyddion fod “rhaid i honno fynd i Bruce”.

Wrth ddefnyddio termau sydd wedi hen ymsefydlu yn Saesneg, dydy cyfieithu’n uniongyrchol i’r Gymraeg ddim bob amser yn briodol, fel yn achos y gwahaniaeth rhwng ‘pêl’ a ‘phelen’. ‘Pêl’, wrth gwrs, yw’r gwrthrych. ‘Pelen’ sy’n cael ei defnyddio wrth ddisgrifio’r weithred o fowlio’r bêl. Ond yn Saesneg, gall ‘ball’ hefyd olygu ‘delivery of the ball’. Erbyn hyn, treiddiodd y gwahaniaeth sylfaenol hwnnw i’r Gymraeg ac mae’n llawer iawn mwy amlwg i’r glust sy’n deall y Gymraeg.

Cymhlethdod arall wrth fathu termau o’r newydd yw’r ffaith fod cymysgedd o Hwntws a Gogs yn y blwch sylwebu. Gwelwyd hyn yn bennaf pan drafododd y sylwebyddion y gair Cymraeg am ‘dugout’. O ystyried bod y term yn un sy’n hen gyfarwydd i gefnogwyr rygbi a phêl-droed, mae’n syndod fod cymaint o anghytuno ai ‘cwt’ neu ‘cwtsh’ sydd fwyaf derbyniol.

Yn ychwanegol at y drafodaeth ieithyddol, roedd cyd-destun diwylliannol y darllediadau’n ystrydebol Gymraeg – yn aml mewn ffordd ffraeth a dychanol – ac fe gynigiodd elfen hollol newydd i’r gwylwyr mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Wrth efelychu traddodiad BBC Test Match Special o roi teisen i’r sylwebyddion, pice ar y maen oedd ar gael i sylwebyddion S4C. Yn nhraddodiad Eic Davies, cafodd enw un o chwaraewyr Morgannwg, David Brown ei droi’n Dafydd Brown. Ac mewn adlais o’r ffilm enwog ‘Ghostbusters’, dywedodd un o’r sylwebyddion y dylid galw ar aelod o’r Orsedd (Robert Croft) pan fo’r tîm mewn trafferth! Ac yn ystod toriad yn sgil y glaw, fe glywson ni ei bod hi’n “dywydd Steddfod”. Yn hytrach na dadansoddiad traddodiadol o’r criced, fe gawson ni ddadansoddiad ar ffurf cynghanedd o’r gornel farddol. Fe glywson ni ar un achlysur, pan gafodd y llifoleuadau eu diffodd gan nam technegol – “Nid solar ydyw Swalec” (Ceri Wyn Jones). Roedd rhai o’r cyfeiriadau diwylliannol dros-ben-llestri braidd, ond fe ychwanegodd at hwyl y darllediadau.

Pan fydd S4C yn dechrau trafod o ddifri sut fyddan nhw’n gwella’r ddarpariaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, beth am iddyn nhw ail-gyflwyno criced T20? Dwi’n gweld ei eisiau… Gawn ni ragor plîs?