Simon Jones
Mae cyn-fowliwr Morgannwg a Lloegr, Simon Jones wedi dweud ei fod e’n awchu am gyfle i chwarae yng nghystadleuaeth IPL yn India.

Mae Jones, sy’n 35 oed ac a gafodd ei ryddhau gan y sir ddiwedd y tymor diwethaf, ar y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth ac fe fydd rhaid i un o’r timau dalu 3 miliwn rupee (tua  £29,500) amdano pan fydd yr ocsiwn yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf (Chwefror 12 a 13).

Mae 514 o chwaraewyr ar y rhestr fer.

Wedi iddo gael ei ryddhau gan Forgannwg, dywedodd Jones ei fod e’n fodlon symud i Loegr neu dramor i chwilio am gytundeb gemau undydd er mwyn cael ymestyn ei yrfa.

Ymhlith y sêr o India fydd ar gael yn yr ocsiwn mae Ravichandran Ashwin, MS Dhoni, Ravinder Jadeja, Suresh Raina, Rohit Sharma, Virat Kohli, Shikhar Dhawan a Harbhajan Singh.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd Simon Jones ei fod e “wedi cyffroi”.

“Rwy yn yr ocsiwn ar gyfer yr IPL yr wythnos nesa, sy’n gyffrous ac os caf fi fy newis, fe fydda i wrth fy modd. Os na, dyna ni.

“Fe fydda i’n symud ymlaen ac rwy’n dal mewn trafodaethau gyda nifer o siroedd felly cawn weld beth ddaw o hynny.

“Fe fydda i’n gwybod mwy ym mis Ebrill, pa un a fydda i’n symud ymlaen neu wneud rhywbeth arall, neu barhau i chwarae.

“Rwy’n 35 ac yn teimlo mor ffit ag erioed ac rwy’n edrych ar ôl fy hun yn well na 90% o chwaraewyr ac rwy’n dal i deimlo bod gen i dipyn i’w gynnig.

“Gobeithio y galla i gael cytundeb a pharhau i chwarae am flwyddyn neu ddwy arall.”