Jim Allenby - 85 heb fod allan
Fe gollodd Morgannwg eu cyfle i gyrraedd rowndiau wyth ola’r gystadleuaeth Ugain20.

Fe gawson nhw gweir o naw wiced gan Gloucestershire yn Stadiwm SWALEC, er gwaetha’ batiad o 85 heb fod allan gan Jim Allenby.

Ac er bod y bowliwr cyflym, Simon Jones, yn y tîm am y tro cynta’ eleni, fe wnaeth y tîm o Gaerloyw yn well byth, gyda’u capten Michael Klinger yn cael 86 diguro.

Roedd rhaid i Forgannwg ennill y gêm neithiwr i fynd ymlaen ond mae’r gweir yn golygu eu bod wedi colli pump o’u chwe gêm ola’ yn y gystadleuaeth.

Roedden nhw wedi cyrraedd 141 am 5 yn eu 20 pelawd ond fe gyrhaeddodd Gloucestershire 145 am 1 efo mwy na thair pelawd ar ôl.