Mae’r bocsiwr o Gymru, Nathan Cleverly wedi cadw’i deitl is-drwm y byd ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Tommy Karpency heno.

Er i Cleverly reoli’r ornest trwy gydol, roedd yn rhaid iddo setlo am fuddugoliaeth ar bwyntiau.

Ar ôl 12 rownd, doedd dim amheuaeth wrth i’r beirniaid ddyfarnu’r ornest yn unfrydol o blaid Cleverly, 120-108, 120-108, 120-108.

Wedi’r ornest fe ddywedodd yr hyrwyddwr Frank Warren ei fod yn awyddus i Cleverly ymladd yr Americanwr chwedlonol Barnard Hopkins nesaf.