Mae’r Cymro Scott Davies yn gobeithio parhau i greu argraff ar y byd seiclo yn ystod ras Giro d’Italia, sy’n dechrau yn Bologna heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11).

Hon yw ras Grand Tour gynta’r seiclwr 23 oed o Gaerfyrddin.

Mae e’n aelod o Team Dimension ar gyfer y ras sy’n para tair wythnos.

Mae e eisoes wedi gwneud enw iddo fe ei hun yn y Santos Tour Down Under yn Awstralia, Paris-Nice a Thaith Twrci y tymor hwn.

Fe oedd y seiclwr gorau o wledydd Prydain yn Nhaith Prydain y tymor diwethaf, gan orffen yn ddeuddegfed.