Mae dau chwaraewr snwcer o Gymru’n wynebu cael eu cosbi am eu rhan mewn helynt yn ymwneud â threfnu canlyniadau gemau ymlaen llaw.

Mae David John eisoes wedi cyfaddef iddo drefnu canlyniadau dwy gêm heb yn wybod i’w wrthwynebwyr.

Mae Jamie Jones wedi’i gael yn ddieuog o drefnu canlyniadau, ond yn euog o fethu â rhoi gwybodaeth i’r awdurdodau am gynllwyn.

Cafodd Jamie Jones ei ddiarddel ym mis Hydref am fethu â rhoi gwybod i’r awdurdodau am gêm amheus rhwng David John a Graeme Dott yn 2016. Ond does dim awgrym iddo drefnu’r canlyniad.

Bydd y ddau yn cael eu cosbi maes o law.