Mae’r chwaraewr snwcer o Went, Mark Williams wedi ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored y Byd yn Tsieina.

Roedd e ar ei hôl hi o 9-5 yn erbyn Dave Gilbert o Loegr, cyn mynd ymlaen i ennill o 10-9.

Dyma 22ain tlws rhestr detholion y Cymro yn ystod ei yrfa.

Mae’n ennill gwobr o £150,000.