Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi i adeiladu trac seiclo newydd ym Mharc Pen-brê yn Sir Gâr.

Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau’r wythnos hon ar ôl i’r Cyngor Sir roi sêl bendith i’r cynlluniau, sydd wedi’u croesawu gan y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths.

“Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous sy’n cefnogi ein dyhead i Sir Gâr fod yn hwb seiclo Cymru.

“Mae strategaeth seiclo’r cyngor yn amlinellu ei nodau i wella isadeiledd, datblygu cyfleoedd yn benodol i bobol ifanc, a chefnogi digwyddiadau.”

Bydd y trac chwe metr o led yn cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac ymarferion, yn ogystal â lleoliad newydd sbon ar gyfer cystadlaethau seiclo, triathlon ac athletau.

Mwy yn seiclo?

Y gobaith yw y bydd y trac newydd yn hwb i economi’r ardal, ac annog mwy o bobol ifanc i seiclo.

“Rydyn ni’n gwybod fod cyfleusterau pwrpasol yn cynyddu nifer y bobol sy’n cymryd rhan yn gyson mewn chwaraeon yn y gymuned, a bod hyn yn allweddol i newid ymddygiad sy’n arwain at ffordd o fyw fwy iach,” meddai Prif Weithredwr Seiclo Cymru, Anne Adams-King.

“Yn ogystal â chynyddu’r cyfleoedd i ymarfer corff, byddai cyfleuster pwrpasol yn ased i glybiau cymunedol, gan greu dwsinau o rolau gwirfoddol mewn clybiau a grwpiau cymunedol.

“Byddai’r trac hefyd yn cynnig adnodd allweddol ar gyfer datblygu talent. Mae angen i seiclo, fel unrhyw gamp arall, ddarparu cyfleoedd ar lawr gwlad i blant a phobol ifanc, a’u galluogi i barhau i ddilyn y trywydd talent ymlaen i lefel elit drwy ein llwybr chwaraeon ni.”

Mae ugain o seiclwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia ar hyn o bryd, a nifer sylweddol ohonyn nhw’n cynrychioli Cymru am y tro cyntaf. Mae tri yn eu plith o Sir Gâr – Manon Lloyd, Jess Roberts a Joe Holt.

Mae’r Cyngor Sir wedi neilltuo £500,000 ar gyfer y prosiect gyda chefnogaeth gan Seiclo Cymru a Chwaraeon Cymru, ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu bara deufis.